Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniadau er anrhydedd i ddau o enwogion y byd criced, y brodyr Alan ac Eifion Jones.
Yn ystod y seremoni raddio, trafododd Syr Roderick Evans, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, yrfaoedd arbennig a chyfraniadau digymar y brodyr Jones at y byd criced, ar ran Morgannwg a Chymru yn ogystal â dinas Abertawe.
Ganwyd Alan ac Eifion i deulu o 11 yn Felindre ar gyrion gogleddol Abertawe a dechreuodd eu llwybr criced yn y caeau ger eu cartref. Gyda batiau wedi'u creu gan eu tad o ddarnau pren, gwnaethant fagu eu sgiliau ar lain lympiog ac anwastad, gan osod y sylfaen efallai am eu gallu eithriadol i ymdopi â symudiadau annisgwyl gan y bêl.
Cafodd doniau'r brodyr eu cydnabod yn gyflym ar lefel clwb, ac o ganlyniad i hynny gwnaethant fynychu'r ysgol griced dan do wythnosol yng Nghastell-nedd. Er gwaethaf yr heriau, gan gynnwys cludo eu cit criced chwe milltir ar droed pe baent yn methu'r bws adref, daethant i'r amlwg drwy eu hymroddiad a'u sgiliau.
Ymunodd Alan â Chlwb Criced Morgannwg ym 1957, wedi'i ddilyn gan Eifion ym 1961. Yn wreiddiol, batwyr oedd y ddau ohonynt, ond gwelwyd yn gyflym fod gan Eifion ddawn naturiol fel wicedwr. Nes iddynt ymddeol ym 1983, gwnaethant chwarae rolau hollbwysig yn ystod oes aur Morgannwg, gan gyfrannu'n sylweddol at lwyddiant y tîm.
Roedd Alan, ac yntau'n fatiwr agoriadol llaw chwith, yn adnabyddus am ganolbwyntio'n ddiwyro, gweld y bêl yn gyflym, symud ei draed yn sicr a'i ddewrder. Yn ystod ei yrfa anhygoel, sgoriodd fwy na 1,000 o rediadau bob tymor am 23 o flynyddoedd yn olynol. Bu’n gapten ar Forgannwg ym 1977 a 1978 a chafodd ei enwi'n Gricedwr y Flwyddyn gan Wisden ym 1978. Daeth un o'i fatiadau bythgofiadwy ym mis Gorffennaf 1966 pan sgoriodd Alan 161 heb fod allan yn erbyn bowlwyr ffyrnig India'r Gorllewin, gan sicrhau buddugoliaeth i Forgannwg.
Cydnabuwyd gwasanaeth neilltuol Alan at griced Cymru pan gyflwynwyd MBE iddo ym 1982. Ar ôl ymddeol ym 1983, derbyniodd rôl hyfforddwr Morgannwg ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Llywydd Clwb Criced Morgannwg.
Cafodd Eifion ei glodfori am ei ddawn fel wicedwr a daliodd y rôl honno i Forgannwg o ddiwedd y 1960au nes iddo ymddeol. Gosododd recordiau, gan gynnwys cyfrannu at 94 o wicedi dosbarth cyntaf ym 1970 a chyflawni'r sgôr uchaf gan wicedwr i Forgannwg, sef 146 heb fod allan ym 1968. Yn anhygoel, ei bartner wrth sgorio’r rhediadau a sicrhaodd y fuddugoliaeth honno oedd ei frawd Alan.
Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Alan: “Mae'n anrhydedd mawr i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon, yn enwedig gan Brifysgol Abertawe. Ar ôl tyfu i fyny yn yr ardal a threulio cyfran sylweddol o'm gyrfa yn y byd criced ar faes San Helen, mae gen i lawer o atgofion hapus o'r cyfnod hwnnw.”
Ychwanegodd Eifion: “Mae'n fraint derbyn yr anrhydedd hwn gan Brifysgol Abertawe. Graddiodd fy wyresau y llynedd, ac er syndod i bawb, dyma fi’n cael cyfle i wisgo'r clogyn a'r het eleni! Bydda i bob amser yn falch o'm gyrfa fel cricedwr proffesiynol ac mae derbyn yr anrhydedd hwn yn Abertawe, dinas lle chwaraeais i lawer o gemau cofiadwy i Forgannwg, yn bwysig i mi.”