Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r actores a graddedig Prifysgol Abertawe, Annabelle Apsion.
Cyflwynwyd y dyfarniad i Ms Apsion heddiw (18 Rhagfyr 2019) yn seremoni raddio Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Ganwyd Ms Apsion yn Llundain, fe'i haddysgwyd yn Guilford ac Oakham, ac mewn coleg chweched dosbarth yn Godalming yn Surrey. Chwiliodd am rywle gogleddol a diwydiannol mewn cyferbyniad i Surrey geidwadol lle'r oedd hi'n byw, ond aeth i Brifysgol Abertawe yn y diwedd, a chwympodd mewn cariad â'r lle, gan ddisgrifio Abertawe fel 'lle o iachau go iawn'.
Ar ôl gollwng Rwsieg, gadawodd am sbel i astudio dawnslunio ym Middlesex, ond dychwelodd yn fuan i Abertawe, gan raddio mewn Saesneg a Drama. Yn ystod ei hamser yma, cyfarfu â'i ffrind am oes, Catherine Carnie, a gyfarwyddodd berfformiadau cynnar Annabelle a mynd gyda hi ar ôl graddio i gyfarwyddo'i pherfformiadau ar y llwyfan yng Nghaeredin.
Dechreuodd ei gyrfa gyda phrif rannau yng nghynyrchiadau Shared Theatre Groups, megis The Bacchae, Heartbreak House ac Anna Karenina. Perfformiodd yn Richard III gan Gwmni Brenhinol Shakespeare yn Stratford upon Avon, gyda'r cyfarwyddwr Sam Mendes; ac yn The Seagull gan Chekhov yn Bristol Old Vic.
Ym 1996, serennodd yn Hillsborough, y ddrama bwerus am drychineb Hillsborough pan fu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed.
Ar dderbyn ei dyfarniad, dywedodd Ms Apsion: "Rwyf wedi cynhyrfu ynghylch ymweld a gweld sut mae dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe wedi datblygu ers fy ymweliad diwethaf 35 neu ragor o flynyddoedd yn ôl! Roeddwn i wedi meddwl erioed y buaswn yn byw yn Abertawe - symudais i Lundain i geisio bod yn actores, gan deimlo ar y pryd bod rhaid symud.
Cysylltodd Abertawe mi â harddwch noeth natur, yn ogystal ag addysg uwch, ac â chymdeithas gyfeillgar o bobl. Roedd yn lle ble gallwn gael fy nhraed danof a thyfu rhywfaint. Byddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfle hwnnw, ac rwy'n hynod falch o fod yn ôl yma yn Abertawe fel y mae heddiw."