Cyflwynodd Prifysgol Abertawe ddyfarniad er anrhydedd i Anne Boden, sefydlwr Starling Bank, ddydd Iau 27 Gorffennaf.
Ganwyd a magwyd Anne yn Abertawe a graddiodd o Brifysgol Abertawe ym 1981 â gradd mewn Cyfrifiadureg a Chemeg.
Roedd yr arbenigedd ym maes technoleg a feithrinodd yn Abertawe o gymorth wrth iddi ddatblygu gyrfa nodedig mewn gwasanaethau ariannol a barodd am fwy na 30 mlynedd. Roedd ei rolau'n cynnwys cynnal systemau technoleg gwybodaeth ar gyfer rhai o sefydliadau ariannol mwyaf y byd.
Sefydlodd Starling Bank yn 2014, gan gredu mai dechrau o'r dechrau oedd yr unig ffordd o greu banc gwirioneddol ddigidol a oedd yn seiliedig ar anghenion cwsmeriaid. Mae Anne wedi arwain Starling o fod yn gwmni technoleg ariannol newydd a dyfodd yn gyflym i fod yn fanc blaenllaw a gyhoeddodd ei elw mwyaf erioed eleni. Ymddiswyddodd o'i rôl fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Mehefin eleni ond mae'n parhau i fod yn aelod o'r Bwrdd.
Ystyrir yn helaeth fod Anne yn un o feddylwyr blaenllaw y sector technoleg ariannol. Cafodd ei gwneud yn MBE yn 2018 am wasanaethau i dechnoleg ariannol a hi yw cadeirydd Tasglu Menter Twf Uchel y Llywodraeth sy'n cael ei arwain gan fenywod. Mae hi hefyd yn aelod o Gyngor Cynghori ar Fusnes Maer Llundain.
Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Anne: "Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf ar ddechrau fy amser fel myfyriwr cyfrifiadureg israddedig newydd ym Mhrifysgol Abertawe ym 1978 y byddai'r wybodaeth am dechnoleg byddwn i'n ei meithrin yma yn fy helpu i sefydlu banc newydd ryw ddydd, byddwn i wedi meddwl ei fod yn breuddwydio. Mae'r radd hon er anrhydedd yn groeso adref gwych i mi ac yn brawf cadarnhaol bod modd gwireddu breuddwydion. Mae derbyn hon gan Abertawe wir yn anrhydedd."