Trosolwg
Darlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadol (HRM) yw Rey Shakirzhanov yn yr Ysgol Reolaeth. Mae'n angerddol am ymchwil academaidd ac addysgu yn y sector addysg uwch.
Fel addysgwr brwd, mae Rey'n addysgu, yn asesu ac yn rhan o ddatblygiad proffesiynol myfyrwyr a chyfoedion yn yr Ysgol Reolaeth. Mae'n addysgu ar draws ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â gwaith a chyflogaeth, Rheoli Adnoddau Dynol ac ymddygiad sefydliadol. Gan ddefnyddio ei brofiad proffesiynol a rhyngwladol, nod Rey yw helpu ei fyfyrwyr i wireddu eu potensial llawn fel ymarferwyr mewn diwydiant ac arweinwyr busnes y dyfodol, wrth iddo gyflwyno addysgu sy'n cyfuno ymchwil, arloesedd ac ysgogiad wedi'i deilwra i anghenion unigol myfyrwyr a ategir gan werthoedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Fel ymchwilydd, mae diddordeb mawr gan Rey mewn taflu goleuni ar natur dulliau cyfoes o gwaith a chyflogaeth. Mae ei waith ymchwil presennol yn archwilio natur gwaith a gwrthrychedd gwaith diwylliannol, gyda ffocws penodol ar ddisgwrs 'menter' arfer y celfyddydau cymunedol yng Nghymru. Mae hefyd yn cydweithio'n rhyngwladol ag academyddion blaenllaw ym maes Cysylltiadau Diwydiannol, gan ganolbwyntio ei waith ymchwil ar gwestiynau hunangyflogaeth ac ansicrwydd gweithle yn economi'r swyddi dros dro.
Yn y gorffennol, bu Rey'n gweithio'n helaeth yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang a'r diwydiant logisteg. Gwnaeth ei brofiad proffesiynol danio ei ddiddordeb dwfn mewn deall dynameg gymdeithasol dulliau ansafonol cyflogaeth a chodi ymwybyddiaeth o amodau llafur yn y gweithle cyfoes.