Trosolwg
Mae gan Dr Rudd ddegawd o brofiad yn gweithio ym maes cemeg a'r economi gylchol dechnegol, gan ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o baneli solar a gweithio ar gynhyrchu hydrogen a dal carbon. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, datblygodd Dr Rudd y rhaglen You and CO2 yn 2018, gan geisio addysgu pobl ifanc am liniaru newid yn yr hinsawdd. Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o raglenni addysg ynghylch newid yn yr hinsawdd ar draws y disgyblaethau, ystodau oedran a gwledydd. Mae hi wedi helpu i hyfforddi athrawon yn Nigeria, wedi cyd-greu rhaglen ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd Cymru i ddysgu am ffasiwn cyflym, wedi cyd-ddatblygu graddfa newydd ar gyfer mesur gallu'r hinsawdd ac wedi ymgynghori ar ran ystod o sefydliadau'r trydydd sector ac addysgol ar raglenni addysg newid yn yr hinsawdd.
Mae Dr Rudd yn aelod o gomisiwn Sero Net erbyn 2035, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar lwybrau i Sero Net, mae wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei gwaith yn y Senedd ac mewn digwyddiadau masnach yn Llundain.
Mae Dr Rudd wedi cyfleu'r argyfwng hinsawdd drwy sgyrsiau cenedlaethol, ar y radio a'r cyfryngau argraffedig ac wedi rhoi sgwrs TEDx yn 2019. Mae'n cael ei gwahodd yn rheolaidd i roi sgyrsiau ar liniaru newid yn yr hinsawdd ac addysg newid yn yr hinsawdd ac mae hefyd wedi cael ei henwebu am ddwy o wobrau Prifysgol Abertawe yn 2020.