Trosolwg
Mae Dr Alan Sandry yn Uwch Ddarlithydd yn Academi Morgan, yr Ysgol Reolaeth.
Mae diddordebau ymchwil cyfredol Dr Sandry yn cynnwys natur esblygol hunaniaethau gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol yn Ewrop; y berthynas rhwng ideolegau a meddwl unigol a chyfunol; addysg ac arloesedd ar gyfer gwellhad economaidd; a ffyrdd y gellir addysgu myfyrwyr am bryderon byd-eang a diddordebau cymdeithasol ehangach.
Gynt fu Dr Sandry: yn Gydymaith Ymchwil, y Ganolfan Genedlaethol Polisi Cyhoeddus, Prifysgol Abertawe; Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Diriogaethol Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, Cymru; Darlithydd mewn Theori Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Cymru; ac Uwch Ddarlithydd mewn Methodolegau Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Regents, Llundain, Lloegr.
Mae Dr Sandry wedi bod yn Ddarlithydd Ymweld mewn prifysgolion ar draws Ewrop gan gynnwys Prifysgol Jean Moulin Lyon 3, Ffrainc; Prifysgol Gwlad y Basg, Bilbao, Euskadi; a Phrifysgol Johannes Gutenberg, Mainz, yr Almaen. Mae wedi traddodi darlithoedd gwadd yn, inter alia, Ysgol Economeg Llundain, Lloegr; Universidade do Minho, Braga, Portiwgal; Kepler Salon, Linz, Awstria; ac Universite De Montreal, Quebec, Canada.
Mae Dr Sandry yn Is-Lywydd sefydliad Coppieters, Brwsel, Gwlad Belg, ac mae'n trefnu Ysgol Haf flynyddol iddo ym Mrwsel ar bynciau o ddiddordeb ar draws Ewrop.
Mae ganddo berthynas waith helaeth â Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd. Hefyd, mae'n rhyngweithio â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd yn rheolaidd; Senedd yr Alban, Caeredin; Cynulliad Gogledd Iwerddon, Belfast; a Thŷ'r Senedd, Llundain, Lloegr.
Ym mis Mai 2017, ar wahoddiad Gure Esku Dago, ef oedd yr Arsylwr Rhyngwladol ar gyfer Proses Ymgynghori Gwlad y Basg.
Mae Dr Sandry yn awdur Devolution in the United Kingdom (Gwasg Prifysgol Caeredin, 2007), a Plaid Cymru: An Ideological Analysis (Gwasg Academaidd Cymru, 2011). Mae wedi ysgrifennu drama ‘From Linz to Langland’ (2020), yn seiliedig ar brofiadau Ludwig Wittgenstein yn Abertawe yn y 1940au.
Mae wedi bod yn ymgynghorydd ac yn gyfrannwr ar gyfer papurau newydd a chyfnodolion gan gynnwys Independent on Sunday, Times Higher Education Supplement, New Statesman, a Financial Times. Mae Dr Sandry hefyd yn gyfrannwr radio a theledu rheolaidd, ac mae wedi cynhyrchu podlediadau o Senedd Ewrop ym Mrwsel, Gwlad Belg.