Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD) ym Mhrifysgol Abertawe'n rhaglen ran-amser ar gyfer athrawon neu uwch-arweinwyr mewn ysgolion sydd am ddatblygu'n broffesiynol yn y sector addysg yn ehangach. Mae'r rhaglen yn cyfuno ymagwedd ar sail ymchwil â chwricwlwm sy'n cynnwys modiwlau a addysgir.
Nod yr EdD yw archwilio materion addysgol ymhellach drwy ddysgu ac addysgu rhyngddisgyblaethol ac ar sail profiad, ynghyd â'r ddealltwriaeth ymchwil ddiweddaraf. Drwy gydol eich profiad academaidd, byddwch yn cael cymorth bugeiliol gan diwtoriaid personol a chyfarwyddwr y rhaglen drwy gyfarfodydd ar-lein ac ar y safle.
Fel myfyriwr ar ein Doethuriaeth Broffesiynol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth soffistigedig o heriau addysgol amrywiol, gan archwilio'r galluoedd a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal ac asesu ymchwil annibynnol.
Mae strwythur yr EdD yn cynnwys cam a addysgir lle caiff pum modiwl eu hastudio dros dair blynedd, a cham ymchwil pan fyddwch yn llunio traethawd ymchwil doethurol. Yn ystod y cam ymchwil, byddwch yn ymgymryd â'ch ymchwil eich hun, i'w chyflwyno a'i hamddiffyn yn ystod arholiad llafar, yn debyg i raglenni doethurol eraill. O ganlyniad i natur y rhaglen, mae lefel yr ymrwymiad i ymchwil, a'r ymroddiad i amser astudio ac ymchwil, yn hanfodol a dylid ei hystyried ochr yn ochr ag ymrwymiadau bywyd eraill.
Pam Abertawe?
Fel rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar gampws trawiadol Parc Singleton, byddwch yn astudio rhaglen sydd â'r nod o hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.
Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael er mwyn gwella datblygiad academaidd, personol a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.
Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2021, roedd mwy nag 81% o'r ymchwil mewn Addysg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol o safon ryngwladol neu'n arwain y ffordd yn fyd-eang.