Trosolwg o'r Cwrs
Mae Peirianneg Feddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol, er mwyn gweithio tuag at fath soffistigedig a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol.
Mae'n cyfuno peirianneg â'r offerynnau a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern, gyda'r nod o greu technolegau newydd pwysig a fydd yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom ac yn ymestyn ein hoes. Gallwch fod wrth wraidd y cyfan.
Mae ein cwrs gradd tair blynedd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau. Byddwch yn meithrin sgiliau craidd peirianneg gan ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr ar yr un pryd.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol a datrys problemau y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio dyfeisiau ac offerynnau meddygol diwydiannol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i weithio yn y diwydiant ehangach.