"Fel sefydliad academaidd, mae Ymchwil ac Arloesi ymhlith ein cenadaethau craidd. Mae prosiect AMBER wedi bod yn hynod gynhyrchiol o ran yr ymchwil sydd wedi deillio ohono ac wrth lunio cysylltiadau proffesiynol newydd a fydd, gobeithio, yn arwain at ragor o ymchwil gydweithredol a ariennir yn y dyfodol. O ganlyniad i'r cydweithrediad, rydym wedi cyhoeddi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion o safon ac wedi meithrin cysylltiadau newydd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr. Mae'r tîm yn Abertawe wedi bod yn wych! Allech chi ddim gofyn am dîm ymchwil a rheoli ymchwil gwell." Jesse O'Hanley, Prifysgol Caint
“Mae prosiectau Ymchwil ac Arloesi yn allweddol i hyrwyddo adfer amgylcheddol a datblygu cynaliadwy yn Ewrop. Dechreuon ni gydweithio â Phrifysgol Abertawe sawl blwyddyn yn ôl ar gadwraeth ac adfer poblogaethau eogiaid yr Iwerydd yn y Penrhyn Iberaidd. Ers hynny, rydym wedi cydweithio ar brosiect AMBER (Adaptive Management of Barriers in European Rivers) ac, o ganlyniad, rydym wedi cyfrannu at waith i ymchwilio i raniad ecosystemau afonydd Ewrop, gan gynyddu ymwybyddiaeth o'r broblem i'r cyhoedd a'r awdurdodau. O ganlyniad, mae polisïau rheoli addasol a mesurau i liniaru'r broblem wedi cael eu datblygu. Rydym wedi gweithio'n galed ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, mewn amgylchedd cyfforddus iawn, gyda thîm gwych o academyddion rhagorol." César Rodríguez, AEMS-Ríos con Vida
“Dechreuodd fy nghysylltiad â Phrifysgol Abertawe pan oeddwn i'n gweithio i Ysgol Fusnes Prifysgol Durham fel Ymchwilydd ar yr elfen gymdeithasol-economaidd o brosiect AMBER. Gan weithio gyda sefydliadau rhynglywodraethol, rhoddwyr mawr ym maes newid yn yr hinsawdd a phrosiectau gwyrdd, a phrifysgolion rhyngwladol, rwy'n ymchwilio ac yn ymgynghori ym maes rheoli cefnau deuddwr ar gyfer datblygiad cynaliadwy. Mae gweithio gyda Phrifysgol Abertawe wedi fy helpu'n fawr i ehangu fy rhwydwaith ac wrth gyhoeddi erthygl a gyrhaeddodd gynulleidfa fawr ar wefan Nature. Rwy'n cyfeirio'n rheolaidd at brosiect AMBER a Phrifysgol Abertawe wrth siarad am effeithiau rhannu afonydd ar ymddygiad mudo pysgod ac infertebratau. Mae tîm Prifysgol Abertawe'n dda iawn ac mae’n hwyl gweithio gyda nhw - byddwn i wrth fy modd yn gweithio mewn consortiwm gydag Abertawe ar brosiectau yn y dyfodol a datblygu ymchwil arall sy'n torri tir newydd.” Sergio Vallesi, Hydro Nexus
“Canolbwyntiodd ein cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe ar wella dulliau ymchwil a chyfleoedd i droi ymchwil yn arfer da. Mae effaith ein cydweithrediad wedi arwain at gyhoeddiadau ar y cyd yn Nature a chysylltiadau newydd mewn cyrff gwyddonol a gweithredu. Mae'r tîm rhagorol yn Abertawe bob amser yn barod i rannu syniadau a chydweithio i ddatrys problemau natur. Rydym yn gweithio ar dri chynnig ymchwil newydd gyda Phrifysgol Abertawe ac mae Canolfan Ranbarthol Ewrop ar gyfer Ecohydroleg Academi'r Gwyddorau Gwlad Pwyl a Phrifysgol Lodz ill dwy’n agored i gynigion cydweithio nawr ac yn y dyfodol.” Małgorzata Łapińska, Canolfan Ranbarthol Ewrop ar gyfer Hydroecoleg Academi'r Gwyddorau Gwlad Pwyl a Phrifysgol Lodz
“Mae gweithio gyda Phrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad da iawn, sydd wedi arwain at allbynnau ymchwil o safon, cydweithredu rhyngwladol a datblygu sgiliau amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Mae'r cydweithrediad wedi darparu arweinyddiaeth o safon, gan hwyluso a chefnogi gweithgarwch i gyflawni prosiect ymchwil amlddisgyblaethol mawr (AMBER).” Martyn Lucas, Prifysgol Durham
“Mae gweithio gyda’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi i ni'r dylanwad awdurdodol sydd ynghlwm wrth wyddoniaeth o'r radd flaenaf. Rydym wedi hwyluso nifer o ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig, sydd wedi ein hysbrydoli a'n hysgogi, ac rydym wedi cyhoeddi rhagor o bartneriaethau ariannu. Mae'r cydweithrediad wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau y gallwn gyfleu canlyniadau'r ymchwil mewn modd awdurdodol i arianwyr a llywodraethau, er mwyn dylanwadu ar safbwyntiau ynghylch cysylltedd llwybrau mudo pysgod i gynnig buddion cymdeithasol niferus.” Peter Gough, World Fish Migration Foundation
“Rydym yn sefydliad sy'n seiliedig ar wyddoniaeth ac mae angen canlyniadau arnom y gallwn eu haddasu i'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn bob dydd ynghylch amddiffyn ac adfer afonydd. Drwy gydweithredu â Phrifysgol Abertawe, rydym wedi elwa o rwydwaith enfawr o bobl ymroddedig a gwybodus yn Ewrop, ac mae hyn wedi ysgogi rhagor o ddiddordeb mewn dileu argaeau yn y Swistir. Mae'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe'n dda, yn ymatebol ac wedi ein helpu drwy ateb ein cwestiynau.” Ruedi Bosiger, WWF Schweiz
“Mae cydweithio ar Ymchwil ac Arloesi'n hanfodol i ddatblygu gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol. O ganlyniad i weithio gyda Phrifysgol Abertawe, rydym wedi bod yn rhan o brosiect pwysig a ariannwyd gan yr UE (AMBER), wedi cyfrannu at gyhoeddiadau gwyddonol (gan gynnwys Nature) ac wedi elwa o rwydweithio rhyngwladol ac amlddisgyblaethol. Mae'r tîm yn rhagweithiol, yn broffesiynol, yn gymwys, yn ddynamig ac mae'n bleser gweithio gyda nhw." Barbara Belletti, POLMI, yr Eidal (yn ENS-Lyon, Ffrainc, ar hyn o bryd)
“Mae ymchwil yn ein helpu i ddysgu rhagor am y sefyllfa bresennol ar gyfer cynefinoedd afonol yn Ewrop a mesurau lliniaru posibl. Fel cwmni pŵer, gallwn gyfnewid cymhwysedd a phrofiad â'r rhwydwaith cyfan a gynrychiolir yn AMBER a nodi 'arfer gorau'. O ganlyniad i'r prosiect, mae gennym ddealltwriaeth well o'r effaith ddynol ar gynefinoedd afonol a'r hyn y gallwn ei wneud amdani. Mae wedi bod yn blatfform i wella dealltwriaeth o safbwyntiau gwahanol ar ddefnydd dŵr ac mae wedi cysylltu prifysgolion a rhanddeiliaid eraill. Mae'r tîm yn Abertawe wedi bod yn gefnogol ac yn gymwynasgar iawn ac yn gydlynydd gwych, gan hwyluso llawer o'r materion ymarferol a gweinyddol a darparu cymwyseddau perthnasol a phwysig." Johan Tielman, Uniper SE Energy