Y Her
Mae pobl ag anabledd am fynd ar eu gwyliau fel unrhyw un arall ond maent yn wynebu llawer o rwystrau sy’n benodol iddyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys rhwystrau corfforol, megis llety i ymwelwyr nad yw wedi’i addasu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, rhwystrau o ran gwybodaeth, sy’n cynnwys anawsterau o ran cyrchu gwybodaeth am y gyrchfan sy’n berthnasol i’w hanabledd, a rhwystrau o ran agweddau, sy’n ymwneud â pharodrwydd gweithwyr yn y diwydiant twristiaeth i gydnabod ac ystyried anghenion gwesteion ag anableddau.
Mae’r rhwystrau hyn yn benodol o uchel yn achos mathau arbenigol o dwristiaeth, megis ecodwristiaeth, sef ffurf gymharol newydd o dwristiaeth a geir mewn ardaloedd naturiol anghysbell fel arfer, lle mae’r dirwedd yn heriol, mae cyfleusterau’n brin, a lle mae twristiaid yn aml yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gorfforol heriol, megis mynydda, dringo creigiau neu gaiaco.
Yn aml, mae busnesau ecodwristiaeth yn arwain y ffordd o ran ymateb i gadwraeth natur a rhoi hwb i economïau lleol, felly pa mor bell mae’r lefel hon o gyfrifoldeb yn ymestyn i sicrhau bod y gwyliau a ddarperir ganddynt yn hygyrch i bawb?
Y Dull
Mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Brock, Canada, mae’r prosiect wedi mabwysiadu dulliau lluosog i ymchwilio i’r materion dan sylw, gan gynnwys dadansoddiad manwl o ddeunyddiau gwefannau busnesau eco twristiaeth yn Awstralia, sy’n lleoliad cychwynnol ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Mae’r dadansoddiad hwn yn cael ei ddilyn gan gyfres o gyfweliadau manwl ag arbenigwyr ecodwristiaeth ledled y byd.
Yr Effaith
Mae canlyniadau'r astudiaeth yn awgrymu, er bod busnesau ecodwristiaeth yn frwdfrydig fel arfer i ymfalchïo yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol drwy gynnwys manylion am eu hardystiad ar eu gwefannau, prin yw’r rhai hynny sy’n sôn am yr hyn a wneir ganddynt i wasanaethu'r gymuned o deithwyr anabl.
Prin yw’r dystiolaeth bod busnesau ecodwristiaeth yn addasu eu cyfleusterau a’u cynigion i ddiwallu anghenion cwsmeriaid anabl. Lle mae cynnydd ar y gweill, mae’n tueddu i ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion pobl ag anabledd sy’n fwy gweladwy, megis cyfyngiadau symudedd, ar draul y bobl ag anabledd cudd, gan gynnwys cyfyngiadau synhwyraidd, megis golwg neu glyw cyfyngedig, ac anableddau deallusol, megis awtistiaeth neu ddementia. Fodd bynnag, mae llawer y gallai’r diwydiant ecodwristiaeth ei wneud, yn weddol rad, i ddiwallu anghenion pobl ag anableddau. Er y gallai’r her o gyflwyno newidiadau o’r fath fod yn fwy i fusnesau ecodwristiaeth, o gofio natur yr ardaloedd lle caiff ei chynnal a sut maent yn gweithredu, mae hyn yn bosib ac, yn wir, dyma’r peth cyfrifol i’w wneud.
Mae'r ymchwilwyr wedi paratoi agenda ar gyfer newid, ynghyd â chanllawiau ar gyfer mathau penodol o fusnesau ecodwrsitaeth, i’w rhaeadru ymhlith y sefydliadau byd-eang niferus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sy’n hyrwyddo ac yn ardystio ecodwristiaeth. Yn ddelfrydol, dylid ystyried diwallu anghenion cwsmeriaid fel rhan annatod o bob busnes ecodwristaidd ac yn rhan gydrannol o’r system ardystio sy’n eu galluogi i ddangos eu manylion.