Blwyddyn gampus arall i chwaraeon perfformiad uchel!
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Abertawe'n gwneud ymdrech i gyflawni achrediad TASS (Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus) er mwyn sicrhau ein bod yn darparu profiad o safon uchel i'n myfyrwyr sy'n athletwyr, wrth iddynt geisio cydbwyso eu hastudiaethau â'u hymrwymiadau chwaraeon.
Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael achrediad gyrfa ddeuol TASS yn 2018. Ers hynny, rydym wedi gweithio'n agos gyda TASS i gynyddu ein darpariaeth perfformiad, ffordd o fyw a gyrfa ddeuol i sicrhau'r gefnogaeth orau bosib i'n hathletwyr perfformiad uchel ar eu taith tuag at lwyddiant academaidd a chwaraeon.
Mae'n bleser mawr gennym gadarnhau ein bod wedi pasio archwiliad TASS yn llwyddiannus eleni gan gadw ein statws gyrfa ddeuol TASS.
Rydym wrth ein boddau hefyd yn cyhoeddi ein bod bellach yn Safle Cyflwyno TASS! Fel un o ddwy brifysgol yn unig yng Nghymru i fod yn safle achrededig, dyma gyfle cyffrous i ni gefnogi a datblygu athletwyr elît sy'n cystadlu mewn rhaglenni, gemau a phencampwriaethau mawr o safon ryngwladol.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda TASS i ddatblygu ein darpariaeth gyrfa ddeuol ac adeiladu ar ein harbenigedd fel safle cyflwyno achrededig.
Gallwch ddarllen rhagor am ein cefnogaeth i'n hathletwyr TASS yma.