Ben Lucas, Cyfarwyddwr Cysylltiol Gwasanaethau Masnachol

Ben sy'n gyfrifol am bortffolio o wasanaethau a chyfleusterau ledled y Brifysgol gan gynnwys Chwaraeon Abertawe a Pharc Chwaraeon Bae Abertawe. Mae Ben yn arwain ar greu a datblygu'r strategaeth gyffredinol ar gyfer chwaraeon myfyrwyr gan gynnwys eiriolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli partneriaethau allweddol a chyfleoedd masnachol. Mae gan Ben hanes hir gyda Phrifysgol Abertawe, ar ôl dechrau astudio yma fel myfyriwr israddedig yn 2000. Bu'n gweithio wedyn yn Undeb y Myfyrwyr, cyn dychwelyd yn 2011 i ymgymryd â rôl gyda'r Brifysgol.  Mae Ben yn treulio ei benwythnosau a'i wyliau yn archwilio rhannau gwylltach Cymru a thu hwnt.

BEN LUCAS, CYFARWYDDWR CYSYLLTIOL GWASANAETHAU MASNACHOL

James Mountain, Rheolwr Chwaraeon Strategol

Mae James yn rheoli cynnig chwaraeon a gweithgarwch corfforol y Brifysgol ac mae'n gyfrifol am gyflawni ein strategaeth chwaraeon, arwain y tîm rheoli, hyrwyddo cyfranogiad a pherfformiad ar draws ein holl raglenni chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac arwain ar ddatblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol. Mae gan James gefndir mewn rheoli chwaraeon ym myd Addysg Uwch ac yn y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac mae'n frwdfrydig dros wella bywydau drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae James yn frwd dros chwaraeon ac yn treulio llawer o'i amser hamdden yn cymryd rhan mewn chwaraeon adrenalin a chwaraeon tîm.

JAMES MOUNTAIN, RHEOLWR CHWARAEON STRATEGOL

 

Shana Thomas, Rheolwr y Rhaglen Ymgysylltu

Mae Shana yn rheoli Bod yn ACTIF, sy'n ceisio cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol myfyrwyr a staff y Brifysgol drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau ar y campws ac oddi arno. Gyda gradd MSc mewn Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd y Cyhoedd, mae Shana wedi gweithio ym maes chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd am fwy nag 20 mlynedd, ar ôl dechrau fel Arbenigwr ar Weithgaredd Corfforol yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Abertawe.  Yna treuliodd 14 mlynedd fel Uwch Swyddog gyda Chwaraeon Cymru lle rheolodd nifer o berthnasoedd â thimau datblygu chwaraeon awdurdodau lleol, arweiniodd ar ddatblygu chwaraeon BME yng Nghymru, yn ogystal â mentrau wedi'u seilio ar iechyd gyda Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau iechyd meddwl.  Ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr ar Fwrdd Criced Cymru, mae Shana yn frwdfrydig am weithgareddau corfforol dros les a phopeth sy'n ymwneud â chriced, chwarae a gwirfoddoli yn ei chlwb lleol, ac mae'n hoff iawn o dreulio amser yn cerdded ac yn dringo yn y mynyddoedd gyda'i theulu.

SHANA THOMAS, RHEOLWR Y RHAGLEN YMGYSYLLTU

Peiman Bourank, Cydlynydd Bod yn ACTIF

Mae Peiman yn cefnogi'r rhaglen Bod yn ACTIF drwy drefnu a goruchwylio sesiynau a digwyddiadau a gynhelir i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol myfyrwyr a staff ledled y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio a chefnogi myfyrwyr sy'n Actifyddion wrth iddynt gynnal y rhaglen graidd o ddydd i ddydd. Mae Peiman hefyd yn hwyluso'r gwaith o gynllunio a chynnal sesiynau untro rheolaidd a digwyddiadau yn ystod Wythnos y Glas. Yn ei amser rhydd, mae Peiman yn mwynhau chwarae pêl-droed ac mae wedi chwarae ar lefel led-broffesiynol yn y gorffennol. Mae hefyd yn Hyfforddwr Ffitrwydd ac o bryd i'w gilydd gofynnir iddo weithio yn y brifysgol.

Peiman Bourank, Cydlynydd Bod yn ACTIF

 

Sadie Mellalieu, Rheolwr Chwaraeon Myfyrwyr

Mae Sadie yn rheoli llinyn 'Anelu'n Uchel' ein strategaeth chwaraeon ac mae'n gyfrifol am ddarparu cynnig chwaraeon hamdden a chystadleuol y Brifysgol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys 56 o glybiau chwaraeon a nifer cynyddol o raglenni rhyng-golegol.

Mae Sadie yn chwaraewr hoci brwdfrydig ac yn ddiweddar mae wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Meistri’r Byd Hoci  dros 35 oed.

Sadie Mellalieu, Aspire Programme Manager/Student Sport Manager, Swansea University

RHODRI MUGFORD, CYDLYNYDD DATBLYGU CHWARAEON

Mae Rhodri yn gyfrifol am gefnogi datblygiad 56 o glybiau chwaraeon y Brifysgol.

Gyda ffocws cadarn ar gefnogi a datblygu myfyrwyr yn eu rolau fel swyddogion y clwb, mae Rhodri yn cynnig cymorth ac arweiniad ar bob agwedd ar chwaraeon clybiau. Yn ei amser hamdden, mae Rhodri yn ymwneud â gweithgareddau phêl-droed Ysgolion Abertawe, ac roedd yn adnabyddus fel gôl-geidwad talentog iawn pan oedd ef yn chwarae!

Rhodri Mugford, Sports Development Coordinator, Swansea University

HAYLEY JONES, GWEINYDDWR CHWARAEON

Hayley sy'n gyfrifol am ddarparu Rhaglen Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion Prydain (BUCS). Wedi graddio mewn Rheoli Chwaraeon, dechreuodd Hayley ei gyrfa yn y diwydiant chwaraeon gan hyfforddi gyda thîm datblygu chwaraeon Cyngor Abertawe.

Yn ei hamser hamdden, mae Hayley'n mwynhau gwylio pêl-droed a chwaraeon eraill, ac mae'n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Abertawe, yn ogystal â mwynhau teithio, ffotograffiaeth a cherddoriaeth.

Hayley Jones, Sports Administrator, Swansea University

 

IMELDA PHILLIPS, RHEOLWR CHWARAEON PERFFORMIAD

Mae Imelda yn rheoli rhaglenni chwaraeon perfformiad uchel y Brifysgol ac yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth strategol i'r rheolwyr chwaraeon perfformiad.  Yn benodol, mae Imelda yn canolbwyntio ar biler Ysbrydoli ein strategaeth, sy'n ceisio darparu perfformiad sy'n arwain y ffordd yn y diwydiant a rhaglenni a gweithgareddau perfformiad uchel. Mae gan Imelda gefndir mewn chwaraeon elît, gan gystadlu ei hun yn rhyngwladol mewn athletau, yn ogystal â gweithio gydag athletwyr elît wrth gwblhau ei MSc mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Imelda yn frwdfrydig am chwaraeon elît ac yn cefnogi athletwyr â chymorth am yrfa ddeuol a ffordd o fyw er perfformiad. 

Imelda Phillips, Performance Sport Manager at Swansea University

VERITY COOK, SWYDDOG CYMORTH I ATHLETWYR

Mae Verity yn cefnogi datblygiad parhaus amgylchedd chwaraeon er perfformiad rhagorol, gan ganolbwyntio, yn benodol, ar ddatblygu a gweithredu ein rhaglenni ysgoloriaethau chwaraeon. Mae Verity hefyd yn darparu gwasanaethau ffordd o fyw er perfformiad i athletwyr ac yn arwain datblygiad y rhaglen TASS. Mae Verity yn cefnogi athletwyr perfformiad uchel a dawnus, yn ogystal â'r chwaraeon perfformiad uchel, gan hyrwyddo lles ar draws yr amgylcheddau chwaraeon. Yn ymgynghorydd cymwysedig mewn ffordd o fyw er perfformiad, mae gan Verity brofiad helaeth o Driathlon Cymru a Nofio Cymru. Yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau teithio, nofio, rhedeg a dringo.

Verity Cook, Athlete Support Coordinator at Swansea University

Lloyd Ashley, Swyddog Cefnogi Athletwyr

Ar y cyd â Verity, mae Lloyd hefyd yn cefnogi datblygiad parhaus amgylchedd rhagorol ar gyfer chwaraeon perfformiad, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu ein rhaglenni ysgoloriaethau chwaraeon a'u rhoi ar waith. Mae Lloyd hefyd yn darparu gwasanaethau ffordd o fyw ar gyfer perfformiad i athletwyr ac yn arwain datblygiad y rhaglen TASS. Mae Lloyd yn cefnogi athletwyr perfformiad uchel a dawnus, yn ogystal â'r chwaraeon perfformiad uchel, gan hybu lles ar draws yr amgylcheddau chwaraeon. Mae Lloyd yn eirioli dros iechyd meddwl mewn chwaraeon ac mae'n hyfforddwr achrededig cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl ac yn arweinydd  iechyd meddwl a lles ar gyfer Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru. Mae Lloyd wedi chwarae rygbi ers dros ddegawd, felly mae'n ymwybodol o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau chwaraeon elît a'i nod yw cefnogi lles ein hathletwyr drwy gydol eu taith gyrfa ddeuol.

Lloyd Ashley, Swyddog Cefnogi Athletwyr

 

CAMERON MESSETTER, SWYDDOG CHWARAEON ETHOLEDIG

Etholwyd Cam gan y myfyrwyr i oruchwylio'r gwaith o gynnal chwaraeon ac ymarfer corff yn hwylus a sicrhau llwyddiant parhaus y gweithgarwch hwn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n gyswllt rhwng myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr, Chwaraeon Abertawe a'r Brifysgol, i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed a'i gynrychioli. Mae Cam, sydd wedi cwblhau ei radd israddedig mewn Rheoli Busnes yn ddiweddar, yn aelod canolog o dîm rygbi’r gynghrair, a chafodd ei ethol yn llwyddiannus yn Llywydd y clwb ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda'r bwriad i dyfu a gwella'r clwb pan fydd ef yn y rôl. Yn ystod amser Cam fel Swyddog Chwaraeon, mae am fod yn llais y myfyrwyr a sicrhau bod problemau'n cael eu cydnabod a'u datrys!

Cameron Messetter, Elected Sports Officer

THOMAS WELLER, CYDLYNYDD CYFLEOEDD A CHWARAEON

Mae Tom yn cefnogi clybiau chwaraeon niferus Undeb y Myfyrwyr. Mae'n darparu gwahanol gymorth ariannol a gweinyddol i glybiau, wrth hyrwyddo llywodraethu da a chyflogadwyedd hefyd. Mae Tom yn gyswllt staff parhaol rhwng Undeb y Myfyrwyr a staff y Brifysgol sy'n gysylltiedig â chwaraeon, tra bod y Swyddog Chwaraeon etholedig yn newid bob blwyddyn neu ddwy. Mae Tom yn darparu cymorth beunyddiol i'r Swyddog Chwaraeon i sicrhau ei fod yn cwblhau ei faniffesto cyn i'w dymor yn y swydd ddod i ben. O ran chwarae chwaraeon, mae Tom yn Siôn bob swydd, yn feistr dim un, er ei fod yn dwlu ar dodgeball!

Thomas Weller, Opportunities and Sport Coordinator at Swansea University Students' Union