Trosolwg
Mae Terry yn Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), ac mae ganddi brofiad helaeth yn y maes fel cyfrifydd cymwysedig.
Ar ôl hyfforddi gyda PwC yn Abertawe, symudodd Terry i rôl cyfrifeg rheoli gyda Heddlu De Cymru, lle cyflwynodd gyllidebau datganoledig i benaethiaid adrannau a phenaethiaid rhanbarthol ac roedd yn rhan o'r tîm gweithredu a gyflwynodd system ariannol a chyflogres newydd i'r sefydliad. Rôl nesaf Terry oedd Rheolwr Cyffredinol cwmni consortiwm gyda chontract Menter Cyllid Preifat sylweddol yng Nghymru. Ymhlith y cyfranddalwyr roedd G4S, Skanska, Costain, WS Atkins a Deutsche Bank. Fel rhan o'r rôl hon, cyflawnodd Terry gynnydd sylweddol yn enillion cyfranddalwyr drwy ddarparu datrysiadau cyfrifeg a threthiant arloesol.
Mae gan Terry brofiad helaeth o weithio mewn practisau cyfrifeg a darparu cyngor i gleientiaid ar faterion cyfrifeg a threthiant.
Ar ôl 20 mlynedd yn y diwydiant ac mewn practis, symudodd Terry i'r sector addysg, gan ddechrau drwy ddysgu cymwysterau proffesiynol ACCA yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cyn symud i Brifysgol Abertawe yn 2010, lle mae hi bellach yn dysgu trethiant a chyfrifeg i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.