Gwryw yn gwenu

Alan G. Hawkes

Athro Emeritws
Canolfan Cyllid Empiraidd Hawkes
Ffôn: (01792) 606295
E-bost: a.g.hawkes@swansea.ac.uk
Ystafell: Swyddfa 354
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
https://orcid.org/0000-0003-0990-1772

Ar ôl darlithio yn Adran Ystadegau UCL, treuliodd Alan 5 mlynedd fel Darllenydd yn Adran Fathemateg Prifysgol Durham cyn ymuno ag Abertawe ym 1974 yn Bennaeth yr Adran Ystadegau newydd. Ym 1984, unodd hon ag adran fach arall i ddod yn Adran Gwyddoniaeth Reoli ac Ystadegau, gyda'r Athro Bryn Gravenor yn bennaeth ac Alan yn ddirprwy bennaeth. Ar ôl ychydig flynyddoedd, trodd hon yn Ysgol Rheoli Busnes Ewropeaidd (EBMS). Pan ymddeolodd Bryn, daeth Alan yn bennaeth yr ysgol rhwng 1996 a 1998 cyn iddo ef hefyd ymddeol. Ar ôl newidiadau amrywiol mewn strwythur a phersonél, daeth EBMS a'r Adran Economeg, i fod yr Ysgol Reolaeth fel y’i gelwir  heddiw.

Bu prif waith ymchwil Alan bob amser ar ryw ffurf ar Tebygolrwydd Gymhwysol. Gan ddechrau gyda damcaniaeth ciwio, trodd at brosesau pwynt ac ar ddechrau'r 1970au cyhoeddodd 5 papur ar 'brosesau hunangyffrous a phwynt cyffrous cilyddol'. Yn wir, ni wnaethant greu llawer o gyffro ymhlith yr academyddion, ar wahân i Seismolegwyr, felly trodd ei sylw at bynciau eraill.

Dros y 35 o flynyddoedd nesaf, bu Alan ac Athro Ffarmacoleg UCL David Colquhoun, FRS, yn arloesi gyda changen newydd o astudio agweddau hanfodol o ffisioleg dynol ac anifeiliaid— modelu stocastig o sianeli ïon biolegol — rhan o'r system gymhleth sy'n cludo signalau trydanol o amgylch y corff, a hebddynt ni fyddem yn gallu teimlo, meddwl, symud neu wneud unrhyw beth o gwbl. Maent hefyd yn safleoedd pwysig ar gyfer weithredu ar gyffuriau. Yn ôl Alan, dyma ei gyflawniad academaidd mwyaf

Gweithiodd hefyd ar ddibynadwyedd systemau, yn bennaf gyda'r Athro Lirong Cui o Sefydliad Technoleg Beijing, cyn-fyfyriwr PhD i Alan yn EBMS yn ystod y 1990au.

Yn y cyfamser dechreuodd prosesau pwynt cyffrous Alan  ddod yn enwog o dan y teitl ‘Prosesau Hawkes’ ac yn 2012 dywedodd Dr Maggie Chen, darlithydd mewn Cyllid bryd hynny yn yr Ysgol Reolaeth, wrth Alan eu bod wedi datblygu'n bwnc trafod mewn llenyddiaeth Cyllid a'i annog i weithio arnynt gyda hi. Maent wedi ysgrifennu sawl papur ac mae eu gwaith wedi cael ei gyflwyno yn Washington DC yng Nghomisiwn Masnachu Nwyddau'r Dyfodol (CFTC), corff rheoleiddiol Cyllid Llywodraeth UDA. Dechreuodd Alan hefyd ganfod gwybodaeth am y cymwysiadau diddorol eraill yr oedd prosesau Hawkes bellach yn cael eu defnyddio ar eu cyfer, ynghyd â datblygiadau damcaniaethol pellach. Cynhaliwyd tri gweithdy rhyngweithiol ar ‘Brosesau Hawkes mewn Cyllid’ yng Nghaerdydd (2016), Abertawe (2018 — ei ddathliad pen-blwydd yn 80 oed) a Hoboken, New Jersey (2019). Yn 2018, cyhoeddodd Quantitative Finance rifyn arbennig ar y pwnc hwnnw ac mae'r European Journal of Finance yn bwriadu argraffu rhifyn tebyg ar gyfer 2020.

Mae Alan wedi gwasanaethu ar Gyngor y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol a Chyngor Rhyngwladol y Gymdeithas Biofetrig, ac mae wedi bod yn Gymrawd y Sefydliad Ystadegol Rhyngwladol ac Academi Gwyddorau Efrog Newydd.