Deall eich hawliau
Ymrwymiad y Brifysgol i'r Gymraeg
Mae egwyddorion cyffredinol o safbwynt ymrwymiad y Brifysgol i'r Gymraeg, yn unol â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017, fel a ganlyn:
- Bydd unrhyw ddogfennau neu ffurflenni sy'n cael eu cynhyrchu at ddefnydd y cyhoedd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Bydd unrhyw apiau neu systemau mewnrwyd i fyfyrwyr rydym yn eu datblygu neu'n eu caffael yn gweithredu'n llawn yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Bydd unrhyw beiriannau hunanwasanaeth yn gweithredu'n gwbl ddwyieithog
- Bydd unrhyw arwyddion neu hysbysiadau newydd, neu rai sy'n cael eu hadnewyddu, yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf
- Mae gwefan y Brifysgol yn ddwyieithog
- Bydd prif gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, yn ogystal â phrif gyfrifon cyfadrannau ac adrannau gweinyddol
- Bydd unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu hysbysebu ar gael yn ddwyieithog
- Caiff cyfieithu ar y pryd ei gynnig mewn darlithoedd cyhoeddus, er mwyn caniatáu i aelodau'r gynulleidfa ofyn cwestiwn yn y Gymraeg, os yw'r pwnc dan sylw, neu'r gynulleidfa a ddisgwylir, yn awgrymu y dylid gwneud hynny
- O safbwynt unrhyw gyfleoedd dysgu a ddarperir i'r cyhoedd yn gyffredinol, cynhelir asesiad o'r angen i'w ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg, a chyhoeddir yr asesiadau hyn ar ein gwefan. Dylid cynnig y Gymraeg lle bynnag y bo'n berthnasol
- Bydd pob cyhoeddiad ar system annerch gyhoeddus (ac eithrio cyhoeddiadau iechyd a diogelwch brys) eu gwneud yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg yn gyntaf.
Mae manylion llawn yn Hysbysiad cydymffurfio Mehefin 2019 y Brifysgol ac yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg.
Rwy'n fyfyriwr
Mae gan fyfyrwyr hawl gyfreithiol i dderbyn:
- Gwneud cais am gymorth ariannol yn Gymraeg
- Llyfryn croeso yn Gymraeg
- Prosbectws yn Gymraeg
- Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- Gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg
- Cyfarfodydd yn Gymraeg
- Tystysgrifau yn Gymraeg
- Asesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Gymraeg (*yn ddibynnol ar y corff arholi)
- Ffurflenni yn Gymraeg
Byddwn yn gofyn i chi am eich dewis iaith (Cymraeg/Saesneg) pan fyddwch yn cofrestru yn y Brifysgol a chaiff hon ei nodi ar eich cofnod myfyriwr fel bod staff yn gwybod ym mha iaith yr hoffech gyfathrebu ynddi.
Cofiwch fod modd byw mewn llety gyda myfyrwyr eraill sy'n siarad Cymraeg.
Eisiau dysgu neu wella'ch Cymraeg? Darllenwch am y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr.
I gael gwybod rhagor am gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gwnewch ymholiadau gyda'r coleg dan sylw, neu gydag Academi Hywel Teifi.
Rwy'n aelod o'r cyhoedd
Bydd y Brifysgol yn cyfathrebu â chi yn eich dewis iaith. Os byddwch yn ysgrifennu atom, byddwn yn ymateb yn y Gymraeg. Os nad wyddom eich dewis iaith, byddwn yn cyfathrebu'n ddwyieithog.
Dyma rai o'ch hawliau o safbwynt defnyddio'r Gymraeg*:
- Ar dderbynfeydd penodol y Brifysgol (llyfrgelloedd y Brifysgol, y Neuadd Fawr, Taliesin, Tŷ Fulton, MyUniHub, Abary Singleton, adeilad Talbot)
- Dros y ffôn ar bob derbynfa arall
- Ar brif rifau ffôn, canolfannau galwadau a llinellau cymorth y Brifysgol (hyd nes bod rhaid trosglwyddo'r alwad at aelod staff nad yw'n siarad Cymraeg sy'n gallu rhoi gwasanaeth ar fater penodol)
- Mae cyfarfodydd unigol gyda'r Brifysgol mewn perthynas â materion penodol
- Mewn cyfarfodydd gyda nifer o bobl yn y Brifysgol, os oes o leiaf 10% wedi gofyn am gael siarad Cymraeg
- Mewn cyfarfod sydd ar agor i'r cyhoedd lle mae unigolyn wedi nodi ymlaen llaw i nodi ei fod am siarad Cymraeg yn y cyfarfod
- Wrth wneud cais am grant neu gymorth ariannol
- Wrth gyflwyno tendr am gontract
*Nodwch fod yr hawliau'n berthnasol ar gyfer y gweithgareddau a restrir fan hyn.
Rwy'n gwneud cais am swydd yn y Brifysgol
Caiff pob swydd newydd neu wag (can gynnwys penodiadau cyhoeddus) eu hasesu i benderfynu a oes angen sgiliau Cymraeg, ac os felly, cânt eu categoreiddio fel swydd lle mae un o'r rhain yn berthnasol:
- Sgiliau Cymraeg yn hanfodol;
- Rhaid dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd
- Sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol;
- Nid yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Gallwch ddarllen rhagor am yr asesiadau fan hyn.
Gall pobl wneud cais am unrhyw swydd yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a wneir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai a wneir yn Saesneg. Bydd y Brifysgol yn datgan yn hysbysebion ei swyddi y gellir cyflwyno cais yn y Gymraeg ac na chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.
Mae'r dogfennau canlynol ar gael i ymgeiswyr swyddi yn y Gymraeg, os maent ar gael yn y Saesneg:
- ffurflenni cais
- deunydd sy'n egluro gweithdrefnau gwneud cais am swydd
- gwybodaeth am y broses gyfweld neu am unrhyw ddulliau asesu eraill ar gyfer swyddi;
- disgrifiadau swyddi
Bydd y dogfennau hyn (a nodir uchod) yn gyfwerth â'r dogfennau a ddarperir yn y Saesneg (e.e. yn yr un fformat, wedi'u cyhoeddi ar un pryd; ar gael i'r un graddau ac ati). Gall ymgeiswyr swyddi ddewis cael cyfweliad yn y Gymraeg mewn unrhyw gyfweliad neu wrth gael asesiad o fath arall ar gyfer swydd, a bydd gofod yn y ffurflen gais i'r ymgeisydd nodi hynny.
Rhoddir gwybod i ymgeiswyr os oes angen i'r Brifysgol ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu wrth asesu neu mewn cyfweliad, fel y gellir gwireddu'r hawliau hynny. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd yn y Gymraeg am ganlyniad y cyfweliad neu asesiad yn yr iaith honno.
Rwy'n aelod o staff y Brifysgol
Mae Safonau'r Gymraeg yn diogelu hawliau staff, ond maen nhw'n wahanol i hawliau'r cyhoedd a myfyrwyr. Mae enghreifftiau o'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn perthynas â datblygiad proffesiynol a chyflogaeth.
Ceir cyfarwyddyd llawn i staff ar fewnrwyd y Brifysgol: chwiliwch am 'hawliau Cymraeg staff'.