Aelod o staff |
Cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff (a rhaid dehongli “staff” yn unol â hynny) |
Ap |
Cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig. |
Carfan |
Grŵp o fyfyrwyr sy’n rhannu un neu ragor o nodweddion ystadegol neu ddemograffig (er enghraifft, myfyrwyr a aned mewn blwyddyn benodol, pob myfyriwr neu bob myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio daearyddiaeth). |
Cyfarfod cyhoeddus |
Cyfarfod lle y gall unrhyw aelod o'r cyhoedd neu fyfyriwr fynychu. |
Cyfle dysgu |
Unrhyw weithgareddau sy’n addysgu, sy’n dysgu sgiliau newydd, neu sy’n datblygu sgiliau newydd yw cyfleoedd dysgu, gan gynnwys seminarau, sesiynau hyfforddi a sesiynau blasu. Byddai’r rhain yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon lle mae sgil newydd yn cael ei ddysgu neu ei ddatblygu e.e. gwersi nofio neu wersyll chwaraeon dwys i blant ysgol yn ystod y gwyliau fel hoci neu athletau. (Ni fyddai’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd rheolaidd y cynigir gan hyfforddwr). Ymhlith yr enghreifftiau eraill o gyfleoedd dysgu mae sesiynau er mwyn gwella sgiliau yn y gweithle (e.e. sesiynau sgiliau busnes), clybiau terfyn dydd i blant ysgol (e.e. dysgu sgiliau cyfrifiadurol neu godio) yn ogystal â sesiynau blasu i bobl ifanc neu ysgolion mewn meysydd megis gwyddoniaeth, ieithoedd modern ac yn y blaen.
Dydy cyfleoedd dysgu ddim yn cynnwys seminarau neu sesiynau a gynigir fel rhan o gwrs (e.e. seminar sy’n rhan o fodiwl cwrs gradd). Er hyn, byddai un sesiwn annibynnol am lenyddiaeth Eingl-Gymreig sy’n agored i’r cyhoedd, YN cael ei hystyried yn gyfle dysgu.
Dydy cyfleoedd dysgu ddim yn cynnwys seminarau neu gyflwyniadau yn gysylltiedig â pherfformiad neu gynhyrchiad e.e. cwmni theatr teithiol yn cynnig gweithdy neu sgwrs i ysgolion cyn perfformiad.
|
Cyfryngau cymdeithasol |
Cyfrifon Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat a YouTube corfforaeth ac adrannol y Brifysgol. Caiff cyfrifon adrannol eu diffinio fel y prif gyfrif y coleg neu uned gwasanaethau proffesiynol (lle bo'n berthnasol). |
Cynhadledd |
Ar y cyfan, dylid trin y rhain fel cyfarfodydd. Gweler cwestiynau cyffredin am ragor o wybodaeth. |
Darlith gyhoeddus |
Unrhyw ddarlith sy'n agored i'r cyhoedd ac sy’n cael ei hysbysebu’n eang. |
Deddfiad |
Deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol— (a) Deddf Seneddol; neu
(b) Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
Derbynfa |
Ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau |
Digwyddiad cyhoeddus |
Digwyddiad cyhoeddus yw digwyddiad ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn staff neu’n fyfyrwyr yn y Brifysgol. Gall hyn gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, ysgolion, darpar-fyfyrwyr, myfyrwyr/staff o Brifysgolion eraill, ac unrhyw sefydliadau allanol (heblaw am unrhyw un sy’n gweithredu mewn capasiti swyddogaeth gyhoeddus). Dydy’r Safonau hyn (34, 35, 36) ddim yn berthnasol i ddigwyddiadau mewnol ar gyfer staff a myfyrwyr. |
Diwrnod ymweliad |
Caiff y rhain eu trin fel 'cyfarfodydd' o dan y Safonau. Gweler cwestiynau cyffredin am ganllawiau pellach. |
Diwrnodau agored |
Mae'r rhain yn cael eu trin fel 'digwyddiadau' o dan y safonau. Gweler cwestiynau cyffredin am ganllawiau pellach. |
Dogfen |
DIM OND YN GYMWYS PAN GYHOEDDIR Y RHAIN AR GYFER Y CYHOEDD A MYFYRWYR. Yn cynnwys:
- trwyddedau, trwyddedau, tystysgrifau;
- llyfrynnau, prosbectysau, taflenni, pamffledi neu gardiau;
- agendâu, cofnodion a phapurau eraill sy'n ymwneud â chyfarfodydd y Bwrdd neu’r Cyngor neu ar gyfer cynadleddau a seminarau cyhoeddus;
- polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;
- canllawiau a chodau ymarfer;
- papurau ymgynghori, rheolau, datganiadau i’r wasg (rhaid cyhoeddi'r rhain ar yr un pryd); ac
- unrhyw ddogfen arall nad yw eisoes yn rhestr pan awgryma y gynulleidfa/rhagwelir y pwnc yn fod yn Gymraeg.
|
Gwasanaeth derbynfa |
Gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw |
Gwefan |
At ddibenion y Safonau, mae hyn yn cynnwys mewnrwyd y myfyrwyr, safleoedd dysgu rhithwir a safleoedd porth dysgu. |
Hunaniaeth gorfforaethol |
Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu). Nid yw safon 87 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol. |
Hysbysiad |
Unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad. |
Person |
Myfyriwr neu aelod o'r cyhoedd neu rywun a chanddo endid cyfreithiol neu gorfforaethol. Er enghraifft, gydweithiwr mewn sefydliad sector cyhoeddus arall, Cyfarwyddwr Busnes neu aelod o'r cyhoedd. |
Tiwtor academaidd |
“Tiwtor academaidd” yw aelod o staff a ddarperir i fyfyriwr a’i rôl fel tiwtor academaidd yw: (i) traddodi darlith neu addysgu cwrs, neu (ii) hwyluso tiwtorialau, gweithdai neu gymorth ymarferol i’r rhaglen ddysgu. |
Tiwtor personol |
Aelod o staff a ddyrennir i fyfyriwr a’i brif rôl fel tiwtor personol yw rhoi cymorth i fyfyriwr o ran ei ddysgu neu o ran unrhyw faterion eraill. Nid yw dyrannu tiwtor personol i A yn cynnwys darparu tiwtor academaidd. |
Unigolyn |
Aelod o'r cyhoedd neu fyfyriwr. |