Ffiseg

Tarantula nebula gan Adam sawyer

Astudio Ffiseg

Mae'r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i leoli ar Gampws Parc Singleton. Mae'r Adran Ffiseg yn cynnal ymchwil sy'n arwain y byd mewn ffiseg arbrofol a damcaniaethol. Mae gennym gysylltiadau agos â CERN ac mae gennym ymchwilwyr academaidd yn seiliedig yno sy'n cynnal ymchwil i gwrth-hydrogen.

Bydd myfyrwyr yn elwa o weithio gyda staff academaidd sydd ag ystod eang o ddiddordebau ymchwil, gan gynnwys ffiseg gronynnau a chosmoleg; ffiseg a deunyddiau cymhwysol; a ffiseg atomig, moleciwlaidd a chwantwm.

Graddau ymchwil ôl-raddedig

MSc yn ôl Graddau Ymchwil:

Graddau PhD ac MPhil