Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein cwrs gradd Llenyddiaeth Saesneg a Sbaeneg gyda Blwyddyn Dramor yn un cyffrous a heriol sy'n cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Cewch gyfle i astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys gweithiau'r Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif a ffuglen gyfoes. Ymhlith y pynciau eraill mae rhywedd a diwylliant ac ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Byddwch hefyd yn dysgu am iaith, hanes a diwylliant cyfoethog Sbaen, Portiwgal ac America Ladin. Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen, llenyddiaeth Sbaeneg a Chatalaneg yr 20fed a'r 21ain ganrif, yn ogystal â chyfieithu ac addysgu.
Gallwch wella eich rhagolygon gyrfa ymhellach drwy dreulio blwyddyn mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith.