Mae'r GwyddonLe yn denu miloedd o ymwelwyr i'r Babell bob dydd
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau allestyn cyn wythnos yr Eisteddfod mewn ffurf ymweliadau ysgol, gweithdai a chystadleuthau. Mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn rhan o weithgareddau’r GwyddonLe ers 2018. Mae'n gyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan ffigurau blaenllaw fydd yno’n beirniadu’r gystadleuaeth.
Yn dychwelyd eto eleni bydd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus boblogaidd i ddisgyblion ysgol hŷn, Her Sefydliad Morgan. Y testun trafod eleni yw "Nid yw'r syniad o gynefin yn gallu cydnabod hanes hiliaeth ac amrywiaeth yng Nghymru", a’r beirniaid fydd Dr Angharad Closs Stephens, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Abertawe, a Cefin Campbell, Aelod Senedd. Nod y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau a bydd y ddau siaradwr buddugol yn ennill gwobr ariannol o £500 i rannu rhwng eu hysgolion.
Ymhlith atyniadau eraill y GwyddonLe bydd cyfle i godio robotiaid ac efelychu ecosystemau gyda Technocamps, profi realiti rhithwir, dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr a sut i roi CPR, creu llysnafedd a llawer mwy. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu cyfranwyr allanol fel Mad Science a The Big Science Project ac ar ben hyn oll, bydd cyfle i ddysgu am y tywydd gyda wynebau cyfarwydd o dîm tywydd y BBC.
Ar ddydd Mercher bydd cwis arbennig ‘Ti a Dy Gorff’ yn cael ei gynnal ar lwyfan y GwyddonLe yng nghwmni Eiry Miles o Gyhoeddiadau Riley a oedd yn gyfrifol am drosi llyfr Adam Kay, Kay’s Anatomy, i'r Gymraeg. Sicrhewch eich bod yno am gyfle i ennill gwobrau!
Yn ogystal bydd cyfle i ymwelwyr ennill gwobrau mewn cystadlaethau dyddiol a chanfod mwy am y cyrsiau a’r cyfleoedd y gall Prifysgol Abertawe eu cynnig.
Dywedodd yr Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe:
“Rydym yn edrych ymlaen at gynnig gwledd o weithgareddau yn y GwyddonLe ar gyfer ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni gan arddangos ystod o arbenigeddau gwyddonwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe. Mae’r Brifysgol yn falch o’n partneriaeth gyda’r Urdd ac o barhau â’n gwaith o hybu pynciau STEM drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gyflwyno rhaglen o weithgareddau a fydd yn denu ac yn difyrru ac o bosib ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.”