Prifysgol Abertawe

Prifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil yw Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gyda chydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.

Mae ein campysau glan-môr godidog yn ein gwneud yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.

Mae Clirio 2024 ar agor - Dewch o hyd i'ch cwrs perffaith. Ond peidiwch ag aros! Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Awst yr 20fed i gael cynnig llety wedi ei warantu. Gweler ein tudalennau Clirio Llety am fwy o wybodaeth.

Byddwn yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored Clirio ar ôl diwrnod y canlyniadau, edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau Clirio am ragor o wybodaeth.

Llinell Gymorth Clirio: Rydym ar agor heddiw rhwng 09:00 a 17:00 (BST)

Ffoniwch ni: 0808 175 3071

Myfyrwyr yn sgwrsio

Lleoedd Clirio

Dewch o hyd i'ch cwrs perffaith heddiw.

Chwilio am gwrs
Myfyrwyr yn chwarae pŵl yn yr ystafell gyffredin yn eu llety

Gwarantu Llety

Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn Awst yr 20fed i gael cynnig llety wedi ei warantu.

Gwnewch gais heddiw!

Cynnig Tocyn Bws

Os byddwch yn rhoi Campws Parc Singleton fel eich dewis cyntaf ar gyfer llety, ond yn cael lle ar Gampws y Bae neu True, rydym yn cynnig tocyn bws am ddim gwerth £450 i fyfyrwyr cymwys.

Dysgu mwy