Uchafbwyntiau Ein Hymchwil
- Ystyrir bod 76% o’n hymchwil yn gyffredinol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4 neu 3 seren)
- Ystyrir bod 100% o effaith ein hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol
- Ystyrir bod 77.5% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
Dywedodd yr Athro Martin Johnes:
"Rydym wrth ein bodd bod ein Huned Asesu Hanes wedi'i gosod yn gyntaf yng Nghymru am ein rhagoriaeth ymchwil gyffredinol, a bod 100% o'n heffaith ymchwil yn cael ei hystyried o safon 'sy'n arwain y byd' ac sy'n 'rhagorol yn rhyngwladol’. Mae'r llwyddiant hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i'r genhadaeth ddinesig y mae Llywodraeth Cymru yn ei disgwyl gan brifysgolion, yn ogystal â'n cryfderau o ran ymchwil hanesyddol sy’n canolbwyntio ar y cyhoedd a'r gymuned, a hynny mewn ffordd sydd nid yn unig yn hybu gwybodaeth, ond yn cyfoethogi bywydau"
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw adeiladu ar ein cryfderau yn y gymuned trwy ddarparu ymchwil hanesyddol sy'n canolbwyntio ar y cyhoedd ac sy'n cynyddu gwybodaeth ac yn cyfoethogi bywydau.
Ein Hamgylchedd
Rydym yn gymuned amrywiol a rhyngddisgyblaethol o 36 o ysgolheigion ag arbenigedd sy'n ymestyn ar draws hanes, treftadaeth, diwylliant materol, archaeoleg, ieithoedd hynafol a llenyddiaeth glasurol. Caiff ein hamgylchedd ymchwil ei lywio gan anghenion y gymuned yr ydym wedi ein gwreiddio ynddi. Mewn ardal sydd wedi cael ei heffeithio'n ddwfn gan ddiwydiannu a dad-ddiwydiannu, a chan ddatganoli gwleidyddol a hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig, rydym yn cymryd o ddifrif ein cyfrifoldeb i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol i feithrin llesiant, cynhwysiant a chyfleoedd i bawb.
Ein Hallbynnau
Oddi ar 2014 rydym wedi cyhoeddi cyfanswm o 38 o lyfrau (monograffau, casgliadau ac argraffiadau ysgolheigaidd) a 138 o erthyglau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid. At hynny, mae ein staff yn gwneud cyfraniadau rheolaidd ar draws amrywiaeth o lwyfannau darlledu a chyfryngau cymdeithasol.
Ein Heffaith
Mae ymgysylltiad ac effaith wrth wraidd ein hymchwil, ac mae ein gwaith effaith uchel ym maes treftadaeth ddiwydiannol a hanes anabledd yn cael ei amlygu yn ein Hastudiaethau Achos Effaith, ‘Copperopolis Ailanedig’ ac ‘Anabledd a'r Gymdeithas Ddiwydiannol’. At hynny, rydym wedi meithrin cydweithrediad sylweddol ym maes treftadaeth hynafol, fel y manylir yn yr Astudiaeth Achos Effaith, ‘Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol mewn Ardaloedd o Wrthdaro’.
Ein Cymuned
Dewch i gwrdd â'n Staff Hanes a'r Clasuron a'n Cymuned Ôl-raddedig