Uchafbwyntiau Ein Hymchwil
Rydym wrth ein bodd bod ein heffaith wedi cyflawni gradd o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol, sy'n amlygu bod ein hadran yn ymrwymedig i ymwreiddio effaith go iawn ar y byd ym mhopeth a wnawn. Mae 90% o’n hymchwil yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol, a gwelwyd cynnydd yn nifer ein cyhoeddiadau sy'n arwain y byd.
Ein Gweledigaeth
Ein hethos yw gwneud gwaith ymchwil sydd o bwys yn yr hirdymor, gan ysbrydoli myfyrwyr a'u hannog i helpu i newid y byd.
Ein Hamgylchedd
Mae ein cymuned academaidd yn ffynnu, gan wneud gwaith ymchwil arloesol unigryw ar draws Damcaniaeth, Rhyngweithiadau Cyfrifiaduron, Cyfrifiadura Gweledol a Diogelwch. Rydym wedi cynyddu nifer ein staff Categori A o 22 (REF 2014) i 33. Mae gennym 15 o staff ymchwil ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi dechrau eu swyddi cyntaf yn ymchwilwyr annibynnol gyda Phrifysgol Abertawe oddi ar 2016. Rydym yn darparu amgylchedd sy'n datblygu, yn siapio ac yn hyrwyddo ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Yn ddiweddar, rydym wedi adleoli i'r Ffowndri Gyfrifiadurol bwrpasol, sy'n werth £32.5 miliwn, a hynny ar gampws newydd y Bae, sy'n werth £420 miliwn. Trwy ddatblygu prosiectau tebyg i'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) a Chanolfan Herio Amgylcheddau Dynol ac Effeithiau Ymchwil ar gyfer Economi Ddigidol Gynaliadwy ac Iach (Canolfan Economi Ddigidol CHERISH), rydym wedi gallu hybu ein huchelgais i annog ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ddod yn arweinwyr y dyfodol, gosod Cyfrifiadureg wrth wraidd tirwedd wirioneddol amlddisgyblaethol, a hyrwyddo ymchwil gyfrifol.
Ein Hallbynnau
Oddi ar 2014, mae ein hymchwilwyr wedi cyhoeddi dros 500 o erthyglau, gyda dros 70 o'r rheiny yn ymddangos yn y 10% uchaf ar gyfer cyfnodolion. Mae hyn wedi arwain at effaith dyfyniadau yn y maes sydd 23% yn uwch na'r cyfartaledd byd-eang. Roedd dros 250 o erthyglau yn cynnwys cydweithrediad rhyngwladol, ac roedd gan dros 50 ohonynt gyd-awduron diwydiannol neu glinigol.
Ein Heffaith
Mae gennym hanes cryf o ymchwil gydweithredol ddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Oddi ar 2014, mae 80% o'n hallbwn ymchwil wedi cynnwys cydweithredwr o'r tu allan i Abertawe, ac mae 70% yn deillio o gydweithrediad rhyngwladol. Mae ein dyfyniad maes-bwysedig yn 1.3, sy'n uwch na'r cyfartaledd yn y ddisgyblaeth. Mae 14.3% o'n cyhoeddiadau ymhlith y 10% uchaf o ran cyhoeddiadau a ddyfynnir yn fyd-eang, ac mae 18.4% o'r cyhoeddiadau yn y 10% uchaf ar gyfer cyfnodolion a gymeradwyir.
Ein Cymuned
Cwrdd â'r staff cyfrifiadureg a'r gymuned ôl-raddedig