Grymuso Pleidleiswyr a Gwella Democratiaeth
Mae cyrhaeddiad y we, gyda gwybodaeth wleidyddol hygyrch a helaeth iawn, wedi drysu pleidleiswyr yn fwy, wedi’u datgysylltu’n fwy oddi wrth wleidyddiaeth, ac wedi achosi iddynt ymddiried llai mewn gwleidyddion etholedig a systemau llywodraethu democrataidd.
Yr her yw nofio yn erbyn y llanw hwn - gan fanteisio ar alluoedd enfawr y we ar gyfer gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu gwleidyddol er mwyn darparu gwybodaeth a deallusrwydd sy’n gwneud pleidleiswyr yn fwy grymus, ac felly yn gwella democratiaeth.
Y Dull
Mae Dr Matt Wall wedi creu, dosbarthu a dadansoddi gwefannau sy’n darparu cyngor i bleidleiswyr mewn amrywiaeth o etholiadau ledled y byd.Mae’r gwefannau hyn yn gofyn i bleidleiswyr gwestiynau polisi ac yn defnyddio data gwyddor wleidyddol er mwyn dangos iddynt sut mae eu hatebion yn gweddu i bleidiau ac ymgeiswyr.
Mae Dr Wall wedi cydweithio ar wefannau cyngor i bleidleiswyr ag academyddion a chwmnïau ledled y DU a’r UE, gan amlaf Dr André Krouwel, Dr Jonathan Wheatley, Dr Ioannis Andreadis, a Kieskompas ac mae ef wedi derbyn cyllid gan Ganolfan yr Economi Ddigidol CHERISH a chronfa SURGE Prifysgol Abertawe.
He also researches how data created by online political gambling markets can help us to make sense of campaigns – acting as a ‘filter’ allowing us to focus on the relevance of stories as opposed to their ideological appeal or shock value. Dr Wall has received funding from the AHRC and CHERISH-DE for this work, resulting in a major publication (with Dr Stephen Lindsay and Dr Rory Costello).
Yr Effaith
Ar y cyfan, mae Dr Wall wedi gweithio ar wefannau cyngor i bleidleiswyr sydd wedi cael eu defnyddio gan fwy na phedwar miliwn o ddinasyddion ledled y byd.Mae ystod o bapurau ymchwil wedi dangos bod unigolion sy’n defnyddio gwefannau fel hynny yn fwy tebygol o bleidleisio a bod yn hyderus i ymgysylltu â thrafodaethau a gweithgarwch gwleidyddol.
Yn ogystal, mae Dr Wall wedi creu sesiynau addysgol mewn sawl ysgol uwchradd leol, ac wedi cynnal arddangosfeydd yn yr Oriel Wyddoniaeth, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Senedd Cymru, ynghylch gwefannau cyngor i bleidleiswyr..
Yn ddiweddar, derbyniodd Dr Wall gyllid gan Ymddiriedolaeth Leverhulme am ei waith gyda Dr Wheately i greu gwefan cyngor ar bleidleisio ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021. Ymwelodd dros 20,000 o ddinasyddion Cymru â gwefan My Vote Choice yn ystod yr ymgyrch.