Ymrwymiad y Brifysgol i'r Gymraeg

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn brifysgol ddwyieithog. Golyga hyn fod croeso i chi ddefnyddio'ch Cymraeg wrth ddod i gysylltiad â'r Brifysgol.

Rydym wedi ymrwymo i Safonau'r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018, sy'n amlinellu pa wasanaethau a fydd yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg a sut y bydd y Brifysgol yn ystyried yn llawn faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi neu strategaeth.

Mae Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â'r gyfraith o safbwynt y Gymraeg a dyma'r pwynt cyswllt cyntaf â Chomisiynydd y Gymraeg.