Jon Beale, Rheolwr Perfformiad Pêl-droed
Mae Jon yn arwain ac yn rheoli ein rhaglenni perfformiad pêl-droed a futsal dynion a merched. Mae Jon yn helpu i ddatblygu a chyflwyno fframwaith a chynllun perfformiad pêl-droed a futsal â ffocws strategol, gan adlewyrchu safonau ac uchelgeisiau clwb proffesiynol. Mae Jon hefyd yn cyfrannu at dwf parhaus llwyddiant cystadleuol yn BUCS, gemau Farsiti a Chynghreirirau Cymru, gan sicrhau cymaint o bwyntiau BUCS â phosibl. Mae gan Jon gefndir helaeth ym maes chwaraeon ac mae ganddo radd achrededig ym maes rheoli, gan arbenigo mewn Hamdden a Chwaraeon. Mae Jon yn hyfforddwr Trwydded A UEFA, yn gyn-Reolwr Academi Clwb Pêl Droed Dinas Hull, ac roedd hefyd yn Bennaeth Hyfforddi Academi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Gareth Beer, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
Mae Gareth yn cynllunio, yn cyflwyno ac yn monitro cymorth cryfer a chyflyru i athletwyr perfformiad uchel a chlybiau chwaraeon yn y Brifysgol. Mae gan Gareth brofiad helaeth o gefnogi llawer o athletwyr mewn gwahanol chwraaeon ac mae wedi gweithio gyda Rhwyfo Cymru, Jiwdo Cymru ac Academi'r Scarlets. Mae Gareth yn gyn-chwaraewr rygbi lled-broffesiynol â diddordeb mewn cic-focsio, MMA ac mae wrthi'n hyfforddi ar hyn o bryd ar gyfer cystadleuaeth Dyn Haearn. Mae Gareth yn frwdfrydig iawn ynghylch chwaraeon, perfformiad uchel, cryfder a chyflyru, maeth, gweithgarwch corfforol ac mae'n mwynhau teithio.
Ross Endersby, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Cynorthwyol
Mae Ross yn cynllunio, yn cyflwyno ac yn monitro cymorth cryfer a chyflyru i athletwyr perfformiad uchel a chlybiau chwaraeon yn y Brifysgol, a hynny yn y gampfa a'r tu allan ar y cae chwarae. Mae gan Ross dros 5 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda gwahanol chwaraeon gan gynnwys Nofio, Rygbi, Pêl-droed a Hoci. Yn y gorffennol, mae Ross wedi gweithio i dimau fel MK Dons a Bedford Blue. Mae Ross yn awyddus i ddatblygu unrhyw athletwr y mae'n gweithio gydag ef i wella ei berfformiad yn ogystal â'i les cyffredinol er mwyn creu'r athletwr gorau posibl ar gyfer ei chwaraeon.
Staff y Clwb Pêl-droed:
- Nigel Hill, Rheolwr Cyffredinol
- Wyn Thomas, Prif Hyfforddwr Dynion
- Jack Long, Hyfforddwr Cynorthwyol Dynion
- Tim Hicks, Hyfforddwr Cynorthwyol Dynion
- Rich Buchanan, Hyfforddwr Cynorthwyol Dynion
- Die Redfern, Hyfforddwyr Gôl-geidwaid
- Daniel Sheehan, Prif Hyfforddwr Merched
- Adam Morgan, Hyfforddwr Cynorthwyol Merched