Callum Chapman, Hyfforddwr Perfformiad Uchel
Callum yw Prif Hyfforddwr tîm hoci cyntaf menywod Prifysgol Abertawe. Mae'n hyfforddwr lefel 2 FIH â chymwysterau Hyfforddwr Golwr, sgiliau technegol a dyfarnu ychwanegol. Mae gan Callum brofiad hyfforddi o'i amser gyda Club de Hockey San Fernando (Sbaen), Prifysgol Oxford Brookes yn ogystal â bod yn hyfforddwr llwybr perfformiad ar gyfer Hoci Cymru a chyn hynny gydag England Hockey. Yn ogystal â'i rôl hyfforddi gyda charfanau perfformiad Prifysgol Abertawe, mae'n gyswllt â Chlwb Hoci Abertawe, sy'n chwarae yng Nghynghreiriau Cenedlaethol Menywod Hoci Lloegr.
Y tu hwnt i hyfforddi, mae gan Callum brofiad chwarae yng nghynghreiriau cenedlaethol Lloegr a Sbaen, Super BUCS a chapiau rhyngwladol iau. Ar hyn o bryd, mae Callum ar y rhaglen meddygaeth i raddedigion yn y Brifysgol ac yn dal i chwarae dros Glwb Hoci Abertawe.
Joseph Jones, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
Mae Joe yn cynllunio, yn cyflwyno ac yn monitro'r ddarpariaeth cryfder a chyflyru ar gyfer athletwyr ffocws a chlybiau chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan Joe MSc mewn cryfder a chyflyru ac ystod eang o brofiad yn y maes. Profiad a ddechreuodd gydag interniaeth gyda Nofio Cymru, gan weithio'n agos gydag athletwyr gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd. Mae Joe hefyd wedi treulio rhan o'i yrfa yn Los Angeles yn gweithio gyda phrifysgol â nifer o chwaraeon adran 1 ac ar hyn o bryd mae'n rhan o adran cryfder a chyflyru Lacrós Cymru. Yn ogystal â bod yn hyfforddwr cryfder a chyflyru, mae Joe'n rasiwr padlfyrddio rhyngwladol ac yn 2024 ef oedd y pencampwr sbrint cenedlaethol. Mae Joe'n angerddol am berfformiad uchel a helpu athletwyr i gyflawni eu nodau.