YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Faint sydd angen i mi ei dalu?

Mae gan y Brifysgol bolisi o ganiatáu i fyfyrwyr dalu mewn tri rhandaliad. Fel myfyriwr rhyngwladol, mae'n rhaid i chi dalu o leiaf 50% o'ch ffi ddysgu sy'n daladwy yn bersonol neu fel arall efallai y cewch eich tynnu'n ôl o'r brifysgol, oni bai bod y taliad gofynnol wedi'i wneud ac yng nghyfrif y Brifysgol cyn y dyddiad dyledus. Does dim eithriadau. Dylech nodi na fydd unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau a ddyfarnwyd i chi yn cyfrif tuag at daliad eich rhandaliad cyntaf. Er enghraifft, pe bai’ch ffioedd yn £15,000 a bod ysgoloriaeth o £2,000.00 yn cael ei dyfarnu i chi, yna byddai eich balans sy'n daladwy yn £13,000.00 i'w dalu mewn 3 rhandaliad o 50% (£6,500.00), 25% (£3,250.00) a 25% (£3,250.00). Daw eich 2il/3ydd rhandaliad yn ddyledus yn seiliedig ar eich math o gwrs a dyddiad cychwyn eich cwrs.

Blwyddyn Academaidd 2023/24

CONVERA

Mae Convera fel arfer yn prosesu trosglwyddiadau i Brifysgol Abertawe o fewn 3 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, nodwch y gall gymryd mwy o amser o bryd i'w gilydd. Wrth wneud taliadau, sicrhewch fod trosglwyddiadau'n cael eu gwneud mewn da bryd fel eu bod yn clirio cyn y dyddiadau cau blaendal neu ffioedd dysgu perthnasol. Sylwch hefyd y gall taliadau o Nigeria gymryd llawer mwy o amser.

CONVERA GLOBALPAY

Gall myfyrwyr rhyngwladol nawr dalu eu ffioedd blaendal a dysgu gan ddefnyddio ein platfform talu sy'n cael ei bweru gan ein partner Convera GlobalPay.

Mae hyn yn caniatáu i chi, eich rhieni a'ch noddwyr dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn yr arian o'ch dewis mewn ffordd syml a diogel.

TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR - NIGERIA (CLICIWCH I AGOR)

TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR - TSIEINA (CLICIWCH I AGOR)

CANLLAW I FYFYRWYR AR ATAL TWYLL (CLICIWCH I AGOR)

Sut i dalu gyda Convera GlobalPay:

  1. Yn syml, dewiswch o ba wlad rydych chi'n talu, yr hyn rydych chi'n ei dalu amdano, a'r dull talu o’ch dewis.
  2. Rhowch eich manylion myfyriwr, gan ddilyn y manylion talwr.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau talu a gwnewch eich taliad.

Payment Logos

MANTEISION I CHI

Manteison i chi:

  • Gall myfyrwyr, rhieni a noddwyr ddefnyddio'r platfform hwn i dalu blaendaliadau, ffioedd dysgu a mwy.
  • Byddwch yn osgoi taliadau trafodion costus gan eich banc.
  • Gallwch dalu ar-lein drwy opsiynau poblogaidd gan gynnwys trosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu ddebyd neu eWallet.
  • Gallwch gymharu opsiynau talu ar unwaith. Mae Convera yn cadw’r gyfradd gyfnewid am 72 awr.
  • Os ydych chi’n dod o hyd i ddyfynbris rhatach gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un raddfa gyda'u Gwarant Addewid Pris.
  • Gwiriwch eich statws talu trwy SMS ac e-bost.
  • Platfform amlieithog ar gael mewn 10 iaith.
  • Mynediad at wasanaeth sgwrsio byw 24/7 ar y platfform neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar: students.convera.com/#!/contacts     
  • Platfform wedi'i adeiladu gyda diogelwch mewn golwg er mwyn diogelu eich arian.
  • Gallwch ddechrau ad-daliadau yn hawdd os bydd amgylchiadau'n newid.
  • Talwch eich ffioedd trwy bartner byd-eang sydd wedi bod yn helpu myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion addysg ers dros ddegawd.
  • Tawelwch meddwl; rydych chi'n cael tipyn o fargen. Os ydych chi’n dod o hyd i bris is gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un pris i chi. Dysgwch fwy am yr Addewid Pris. (Telerau ac Amodau yn berthnasol).

CONVERA - SUT I DALU

GWLEDYDD A WAHERDDIR GAN CONVERA

Awdurdodaethau dan gyfyngiadau: Iran, Affganistan, Gogledd Korea, Rwsia, Syria, Belarws, Venezuela, tiriogaethau Crimea, Luhansk a Donetsk a Chiwba.  

Peidiwch â gwneud taliadau drwy CONVERA os ydych yn byw yn un o'r gwledydd uchod.  

Cwestiynau cyffredin

Dulliau Talu Derbyniol

Sesiynau 'Galw Heibio' Cyllid

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ffioedd dysgu a’ch bod am siarad ag aelod o'n tîm, mae gennym Sesiynau Galw Heibio ar Gampws y Parc, ar y dyddiau a'r amseroedd isod.

Campws Singleton - Adran Gyllid, Llawr Gwaelod:

Dydd Mawrth 10.00yb - 12.00yp
Dydd Iau 2.00yp - 4.00yp

Gallwch fynd i’n sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:

 

Sgwrs Fyw

Dydd Llun 2.00yp - 4.00yp
Dydd Mercher 2.00yp - 4.00yp
Dydd Gwener 2.00yp - 4.00yp

Ebost: income.tuition@abertawe.ac.uk.