Trosolwg
Mae Zoe yn ddarlithydd mewn Troseddeg yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Mae wedi addysgu gwahanol fodiwlau ar lefel israddedig ers ymuno â'r gyfadran yn 2021 ac mae’n arbenigo mewn rhywedd a chysylltiadau rhwng y rhywiau. Mae Zoe hefyd yn Gymrawd Cyswllt o'r Academi Addysg Uwch.
Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roedd Zoe yn ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd. Canolbwyntiodd ymchwil doethurol Zoe ar rywedd, trais, ac ymgorfforiad mewn crefft ymladd cymysg (MMA). Roedd y themâu hyn yn ganolog i faterion ehangach yn ymwneud nid yn unig â'r gamp ond cyrff mewn bywyd pob dydd, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, ffiniau hiwmor a throthwy trais mewn rhyngweithio.
Mae ei diddordebau ymchwil ac addysgu yn cynnwys methodolegau creadigol, fel barddoniaeth fel math o ddadansoddi data a chynrychiolaeth.