Trosolwg
Athro Cysylltiol mewn Seiberfygythiadau yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw Kristan Stoddart sydd hefyd yn gweithio i Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Yn Abertawe, mae'n aelod o'r Ganlfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC). Roedd e'n Ddarllenydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle roedd hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Deallusrwydd ac Astudiaethau Diogelwch Rhyngwladol.
O 2014 i 2017, roedd yn Brif Ymchwilydd ar brosiect gwerth £1.2 miliwn a oedd yn archwilio Cylchoedd Bywyd Seiberddiogelwch a ariannwyd gan Airbus Group a Llywodraeth Cymru, ac roedd yn aelod o Banel Moeseg Ddigidol mewn Plismona Annibynnol y DU am oddeutu 4 blynedd tan 2018. Mae’n aelod o’r Prosiect ar Faterion Niwclear yn y Ganolfan Astudiaethau Strategol a Rhyngwladol yn Washington DC mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol. Yn 2022, daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Gelfyddydol Frenhinol (FRSA).
Mae wedi siarad mewn nifer fawr o gynadleddau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys NATO, GCHQ a Rheolaeth Filwrol Strategol UDA ac ar gyfer sawl math o gyfryngau gan gynnwys y BBC. Mae'n awdur neu'n gyd-awdur pum llyfr a thros 25 o erthyglau a phenodau mewn llyfrau. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau tri llyfr arall: Cyberwar: Threats to Critical Infrastructure (Palgrave/Springer, 2022). Ac mae dau arall yn y broses o gael eu cyhoeddi: Russia’s cyber offensive against the West, and China and its embrace of offensive cyber espionage.
Yn ogystal, mae'n ymwneud â phrosiect ymchwil sy'n archwilio gwytnwch yr UE i ryfela hybrid a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd