Trosolwg
Mae diddordebau ymchwil Stuart ym meysydd cyfraith trosedd a gwrthderfysgaeth, yn enwedig camfanteisio ar blatfformau ar-lein at ddibenion eithafiaeth a therfysgaeth, ac ymatebion rheoleiddio. Mae'n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seiberfygythiadau y Brifysgol (CYTREC), mae'n brif arweinydd #TASMConf (Cynhadledd Terfysgaeth a'r Cyfryngau Cymdeithasol) a gynhelir bob dwy flynedd ac mae'n Gydlynydd Rhwydwaith VOX-Pol. Mae Stuart wedi derbyn cyllid ymchwil gan yr Academi Brydeinig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr UD, NATO a'r Undeb Ewropeaidd ymhlith eraill. Mae'n aelod o Bwyllgor Llywio Rhwydwaith Cynghori ar Derfysgaeth Europol ac mae'n Uwch Gymrawd o Hedayah. Yn 2016/17, roedd hefyd yn ddeiliad Gwobr Seiberddiogelwch Fulbright.
Mae gwaith diweddaraf Stuart wedi archwilio naratifau treisgar jihadaidd, eu rhannu ar-lein ac ymatebion cyfreithiol a pholisi. Cyn hyn, roedd ei waith yn canolbwyntio ar seiberderfysgaeth, ymchwilio i faterion diffiniadol, asesu bygythiadau a chwestiynau ymateb. Mae ei waith cynharach yn cynnwys prosiectau ar ddehongli a chymhwyso egwyddorion mewn polisi gwrthderfysgaeth, y syniad bod yn rhaid i bolisi gwrthderfysgaeth gydbwyso diogelwch a rhyddid ac ymagwedd Abertawe at fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid. Mae ef hefyd wedi ysgrifennu nifer o erthyglau eraill ar reoleiddio ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ystyried materion megis y defnydd o orchmynion ASBO yn erbyn pobl ifanc, y diffiniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chategoreiddio’r ASBO fel cosb sifil.