Trosolwg
Ymunodd Dr Davies â'r Ysgol yn 2001 ar ôl dechrau ei yrfa ym Mhrifysgol Southampton. Cwblhawyd ei PhD ar reoleiddio caffael cyhoeddus rhyngwladol ym Mhrifysgol Nottingham.
Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes cyfraith economaidd ryngwladol ac mae'n un o awduron World Trade Law: Text Materials and Commentary. Mae ganddo ddiddordeb penodol yn y rhyngwyneb rhwng cyfundrefnau cyfraith masnach a buddsoddi, a sut mae pob cyfundrefn yn ymateb i'r tensiwn rhwng rhyddfrydoli a lle i wladwriaethau reoleiddio er budd y cyhoedd. Mae Dr Davies yn addysgu Cyfraith Masnach Ryngwladol a Chyfraith Fasnachol. Mae hefyd yn darparu seminarau Cymraeg mewn Cyfraith Contract