Ymweliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru â phartneriaid Tecsas
Ymchwil fel Celf yn Nhecsas
Gwerthuso Ffracio’n Feirniadol
Arddangosiad Abertawe ym Mhrifysgol Houston
Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
Ymwelodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, â Phrifysgol Houston, Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston a Choleg Meddygaeth Baylor i ddysgu mwy am brosiectau cydweithredol Abertawe yn Nhecsas.
Cafodd y cyfle i weld arddangosiad o fodelau efelychu meddygol arloesol a ddatblygwyd gan yr Athro Ian Pallister o Brifysgol Abertawe ac ymwelodd hefyd â Mission Squash, sef rhaglen gyfoethogi ar gyfer pobl ifanc a sefydlwyd gan un o gyn-fyfyrwyr Abertawe, sef Alistair Barnes, sydd â'r nod o roi’r cyfle i blant o gymunedau a danwasanaethir gyflawni eu potensial a chyflawni’u breuddwyd o sicrhau addysg coleg.
Ymchwil fel Celf yn Nhecsas
Mae Partneriaeth Strategol Tecsas wedi galluogi menter Ymchwil fel Celf Prifysgol Abertawe i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn Nhecsas. Cystadleuaeth flynyddol yw Ymchwil fel Celf sy'n rhoi llwyfan i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff gyfleu harddwch, dynoliaeth a phwysigrwydd eu hymchwil trwy ddelwedd ynghyd â disgrifiad o 150 gair.
Mae arddangosfa o ddelweddau buddugol i’w gweld yn y Scholars Commons yn Llyfrgell Perry-Castaneda Prifysgol Tecsas yn Austin ers 2016, ac mae sylfaenydd a chyfarwyddwr y gystadleuaeth, sef yr Athro Richard Johnston, wedi traddodi darlithoedd am y fenter mewn prifysgolion sy’n bartneriaid yn Austin a Houston.
Ymweliad Llysgennad UDA ag Abertawe
Ymweliad Llysgennad UDA ag Abertawe
Ymwelodd Llysgennad yr Unol Daleithiau â'r Deyrnas Unedig, Woody Johnson, â Phrifysgol Abertawe i ddysgu mwy am ei hymchwil sy'n arwain y byd yn ogystal â'i phartneriaethau yn Nhecsas.
Yn ystod yr ymweliad cyfarfu â'r Is-ganghellor a chynrychiolwyr o'r Coleg Peirianneg, y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol a Phartneriaeth Strategol Tecsas. Cafodd y cyfle hefyd i gwrdd â myfyriwr o Decsas sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd mewn rhaglen interniaeth mewn Gwleidyddiaeth sy'n cyfuno cyfres o ddarlithoedd ar wleidyddiaeth a llunio polisïau ym Mhrydain ac Ewrop ag interniaeth gydag AS, aelod o Senedd Cymru neu gorff anllywodraethol.
Dyfeisiwch dros y blaned
Ers 2018 mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd rhan yn ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’, sef Profiad Dylunio Dwys am 48 awr ar y cyd â Phrifysgol A&M Tecsas. Mae myfyrwyr yn dewis problem beirianyddol a dim ond 48 awr sydd ganddyn nhw i ddatblygu datrysiad, prototeip a chynnig cryno llafar a gyflwynir i banel o feirniaid o'r byd academaidd a byd diwydiant.
Mae'r digwyddiad yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gydweithio mewn timau trawsddisgyblaethol ac i weithio gyda myfyrwyr a mentoriaid o sefydliadau eraill sy’n cymryd rhan. Ymunodd 40 o brifysgolion o 20 gwlad â chystadleuaeth Dyfeisiwch dros y Blaned 2020, ond Abertawe yw'r unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan.
The Black Prince of Florence
Fel rhan o'r daith i gyd-fynd â lansiad ei llyfr yn UDA, sef The Black Prince of Florence, cymerodd Dr Catherine Fletcher o Adran Hanes Prifysgol Abertawe ran mewn digwyddiadau yn Austin.
Cymerodd Dr Fletcher ran mewn bwrdd crwn ar bwnc 500 mlwyddiant Geto Fenis a gynhaliwyd gan Sefydliad Astudiaethau Hanesyddol Prifysgol Tecsas yn Austin, rhoddodd sgwrs a llofnododd lyfrau yn siop lyfrau chwedlonol Austin, sef Book People.
Arddangosiad Rhagoriaeth Ymchwil Tecsas
Wedi'i amseru i gyd-fynd â'r hyn a fyddai wedi bod yn 100 mlwyddiant geni'r bardd Dylan Thomas a anwyd yn Abertawe, cynhaliodd Prifysgol Abertawe arddangosiad o'i rhagoriaeth ymchwil mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Nhecsas.
Cynhaliwyd yr arddangosiad, a oedd yn cynnwys darlithoedd gan 20 o ymchwilwyr y Brifysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol, mewn partneriaeth â thair o Brifysgolion partner y Brifysgol yn Nhecsas, sef Prifysgol Houston, Prifysgol A&M Tecsas a Phrifysgol Tecsas yn Austin.
Gallwch chi weld rhaglen y digwyddiadau a phroffiliau’r siaradwyr drwy lawrlwytho Llyfryn Arddangosiadau Tecsas.
Gwerthuso Ffracio’n Feirniadol
Fel rhan o ymrwymiad Partneriaeth Strategol Tecsas i drosglwyddo gwybodaeth, roedd arbenigwyr Tecsas ymhlith y siaradwyr a wahoddwyd i gyflwyno’r seminar, "A Critical Appraisal of Fracking" i gynulleidfa o ASau ac ymgynghorwyr yn Senedd Cymru.
Ymhlith y siaradwyr roedd yr Athro Andrew Barron, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe, a Charles W. Duncan, Jr - Cadeirydd Cemeg Welch ac Athro Gwyddor Ddeunyddiau ym Mhrifysgol Rice yn Nhecsas, a Dr Ramanan Krishnamoorti, Prif Swyddog Ynni Prifysgol Houston.
Arddangosiad Abertawe ym Mhrifysgol Houston
Ymwelodd dirprwyaeth o academyddion o Brifysgol Houston ag Abertawe i drafod prosiectau cydweithredol ym maes addysgu, ymchwil a symudedd myfyrwyr a staff, ynghyd â chyflwyno rhaglen o ddarlithoedd gwadd ar ystod o bynciau.
Traddododd academyddion o Goleg Graddedigion Gwaith Cymdeithasol, y Coleg Peirianneg, y Coleg Optometreg a'r Adran Astudiaethau Sbaenig ddarlithoedd ar bynciau gan gynnwys Trin Iselder drwy Aciwbigo, Deunyddiau a Chymwysiadau Clyfar ym maes Awyrofod ac Anghenion Plant Mewnfudwyr yn y System Lles Plant.
Astudio Dramor a Ffeiriau Recriwtio
Mae cynrychiolwyr Prifysgol Abertawe yn mynychu ffeiriau Dysgu Dramor ym Mhrifysgol Houston a Phrifysgol Tecsas yn Austin.
Os hoffech chi drefnu i gynrychiolydd o Abertawe fynychu eich ffair Astudio Dramor neu ddigwyddiad recriwtio ar gyfer ysgolion yn Nhecsas, cysylltwch â Dr Caroline Coleman-Davies.
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol