Academi Arweinyddiaeth Myfyriwr
Mae Academi Arweinyddiaeth Myfyriwr (SLA) yn rhaglen arweinyddiaeth rhyngbroffesiynol, sydd wedi'i chynllunio i annog a chefnogi myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso rhinweddau arweinyddiaeth i'w cyd-destun personol, proffesiynol a sefydliadol eu hunain, gyda pherthnasedd uniongyrchol i gyflogwyr y dyfodol. Gwahoddir myfyrwyr blwyddyn gyntaf o holl rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol cyn-gofrestru i wneud cais ac, o’r pwll hwn, bydd 30-35 o fyfyrwyr yn cael eu dewis. Nid yw’r ffocws ar deitl neu swyddogaeth arweinyddiaeth ond ar fyfyrwyr yn ennill mewnwelediad i’w dull arwain gan ddatblygu'r hyder i arwain trwy ysbrydoli, dylanwadu a chefnogi eraill.
Ochr yn ochr â ‘byrstiau theori’ a gweithgareddau rhyngweithiol, gwahoddir arweinwyr a chyflogwyr ysbrydoledig o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i rannu straeon am eu ‘straeon arweinyddiaeth’ oherwydd bod adrodd straeon yn offeryn pwerus sy’n dal ac yn ennyn sylw. Mae adborth myfyriwr yn cynnwys: 'Amser grêt yn dysgu gan bob un o'r siaradwyr', 'rhaglen wych - siaradwyr ysbrydoledig' ac 'Ymgysylltu â sgyrsiau yn enwedig y teithiau arweinyddiaeth.'