Trosolwg o'r Cwrs
*SYLWCH: Cadarnhawyd sgoriau terfynu profion derbyn ar gyfer mynediad Medi 2024 - gweler 'Profion derbyn' am fanylion llawn
Mae rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn un unigrw yng Nghymru ac yn un o lond llaw yn unig o raglenni astudiaeth feddygol tebyg yn y DU sy'n agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth.
Mae’r radd feddygol garlam, bedair-blynedd hon yn dilyn cwricwlwm sbiral arloesol, integredig sydd wedi’i gynllunio i adlewyrchu’r ffordd y mae clinigwyr yn trin cleifion a’r ffordd y mae cleifion yn cyflwyno i feddygon.
Byddwch yn astudio gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, patholeg, therapiwteg, moeseg, materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion.
Ynghyd â chanolbwyntio’n gryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, byddwch yn datblygu rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i allu ymarfer meddygaeth mewn modd cymwys a hyderus.
Mae ein proses o gyfweld am le ar y cwrs yn un strwythuredig, gan ystyried y rhinweddau hyn sydd eu hangen i fod yn feddyg, fel a bennir yn ‘Good Medical Practice’, a’r gallu i gyflawni’r canlyniadau yn ‘Outcomes for Graduates’. I grynhoi:
- Sgiliau cyfathrebu
- Sgiliau datrys problemau
- Ymdopi â phwysau
- Mewnwelediad ac uniondeb cymeriad
- Brwdfrydedd at feddygaeth/cydnerthedd i lwyddo
- Trefniadaeth ac ymchwil
- Moeseg a gwerthoedd