Trosolwg o'r Cwrs
Manteisiwch ar eich diddordeb yn y gorffennol drwy astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r canol oesoedd i'r presennol.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.
Mae astudio’r cwrs gradd BA integredig pedair blynedd hwn yn agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen radd lawn. Mae’n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gefnogaeth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl bwlch.