Trosolwg o'r Cwrs
Mae dealltwriaeth ddofn ac arbenigol o beirianneg yn ehangu eich gorwelion i fyd yn llawn cyfleoedd gwahanol. Ym Mhrifysgol Abertawe, ceir digonedd o ddewis o raddau mewn peirianneg.
Gallwch ddewis canolbwyntio eich diddordeb mewn nifer o feysydd o beirianneg awyrofod, sifil a chemegol, i beirianneg drydanol, deunyddiau, mecanyddol a meddygol.
Os nad ydych yn siŵr pa ddisgyblaeth ym maes peirianneg sy'n addas i chi, bydd y flwyddyn sylfaen hon yn eich helpu i benderfynu.
Gall y rhaglen integredig Blwyddyn Sylfaen Peirianneg arwain at unrhyw radd lawn mewn peirianneg. Nid cymhwyster ynddo'i hun ydyw ond, yn hytrach, blwyddyn gyntaf cwrs gradd BEng pedair blynedd o hyd.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant ehangach.