Mae Profiad Myfyrwyr Rhyngwladol yn bodlediad sy'n ymroddedig i arddangos straeon unigryw myfyrwyr o bob rhan o'r byd sydd wedi dewis astudio yn y DU.

Mae’r pynciau’n cynnwys sut brofiad yw dod i’r DU am y tro cyntaf, sut i lywio cyrraedd Abertawe, creu cymuned i chi’ch hun tra oddi cartref a’r lleoedd gorau i fynd am goffi pan fyddwch chi yma!

Pennod diweddaraf

Cyfres 2, Pennod 7 -  Pwysedd yw'r peth sy'n creu diemyntau. Haikaeli Kinyamagoha, Tanzania

Yn y bennod hon o’r podlediad, mae Haikaeli Gillard Kinyamagoha o Tanzania yn rhannu ei thaith ym maes gofal iechyd gan ganolbwyntio ar ffarmacoleg ac arferion brodorol. Trwy ei phlatfform, Balcony Series, mae'n defnyddio celf i symleiddio a lledaenu gwybodaeth iechyd gymhleth. Mae un prosiect arwyddocaol, sef rhaglen ddogfen fer o'r teitl "Mwanahiti", yn archwilio dulliau traddodiadol pobl Zaramo o addysgu iechyd rhywiol ac iechyd atgenhedlu i ferched ifanc. Er gwaethaf heriau o ran cyllideb a diwylliant, llwyddwyd i ddogfennu'r prosiect a'i arddangos yng 2023 Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Zanzibar.

 

Cyfres 2, Pennod 6 -  O Tsieina i'r DU, heriau astudio dramor. Barry Liu, Tsieina

Yn y bennod hon, rydym yn cwrdd â Barry, sy'n dod o Tsieina yn wreiddiol, ac sydd wedi treulio wyth mlynedd yn y DU. Mae ef bellach yn astudio ar gwrs Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol ar ôl newid o radd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bryste. Penderfynodd Barry newid i gyfrifeg a chyllid am ei fod yn faes sy'n alinio'n well â chefndir ei deulu ym maes cyllid. Mae Barry yn rhannu ei brofiadau o fyw yn Abertawe o'u cymharu â byw ym Mryste a'i gartref yn Tsieina. Mae hefyd yn trafod ei swydd ran-amser mewn asiantaeth gosod eiddo yn Abertawe sydd wedi cynnig cymorth ariannol a phrofiad gwerthfawr. Er gwaetha'r farchnad swyddi anodd a'r heriau o ddychwelyd i gyfweliadau wyneb yn wyneb, mae Barry yn parhau i fod yn obeithiol am ei ddyfodol yn Tsieina.

 

Cyfres 2, Pennod 5 - Astudio Dramor: Pontio diwylliannau a dod o hyd i fy ffordd fy hun. Lucie Lefler, USA

​Yn y bennod hon mae Lucy Lefler, o Columbus, Georgia, yn rhannu ei thaith o ddarllen Harry Potter a Percy Jackson i astudio hanes hynafol a llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Lucy yn trin a thrafod ei hangerdd am fytholeg Rufeinig, ei harchwiliadau o safleoedd hanesyddol yng Nghymru, a'r gwrthgyferbyniadau diwylliannol rhwng Abertawe a'i thref enedigol. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd cymuned a chyfeillgarwch wrth iddi addasu at fywyd y DU, ac mae'n myfyrio ar yr annibyniaeth a gafodd wrth astudio dramor.

Cyfres 2, Pennod 4 - Cam wrth Gam. Srushti Mande, India

Mae Srushti Mande o Mumbai, India yn astudio ar gwrs gradd MSc mewn Realiti Rhithwir ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n rhannu ei thaith o astudio cyfrifiadureg yn India, gweithio mewn cwmni rhyngwladol i archwilio Realiti Rhithwir ac, yn y pendraw, symud i'r DU. Mae'n pwysleisio rôl hanfodol Ysgoloriaeth Myfyriwr Ôl-raddedig Cymru Fyd-eang a’i galluogodd i astudio. Mae Srushti yn trafod heriau a chyffro ei hediad rhyngwladol cyntaf, pwysigrwydd cymuned ymhlith myfyrwyr rhyngwladol a chydbwyso ei hastudiaethau academaidd, bywyd gwaith a bywyd cymdeithasol yn Abertawe.

Cyfres 2, Pennod 3 - Eich rhwydwaith yw eich gwerth net. Joshua Benn, Guyana

Mae Jshua Benn, twrnai o Guyana, yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar ysgoloriaeth Chevening o fri, gan ddilyn LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy. Wedi'i ysbrydoli ar ôl i olew gael ei ddarganfod yn Guyana yn 2015, ei nod yw llenwi'r bwlch arbenigedd cyfreithiol yn ei wlad. Mae Joshua yn priodoli ei lwyddiant i'w ewythr a rhwydwaith cefnogol Chevening, a'i helpodd drwy'r broses ymgeisio. Nawr, mae’n symud y gymwynas yn ei blaen, gan arwain ysgolheigion y dyfodol ac yn rhoi rhywbeth yn ôl.

Cyfres 2, Pennod 2 - Ymdopi ag awtistiaeth ac unigrwydd pan fyddwch chi yn y Brifysgol - Therese Elnar, Philipines.

Yn y bennod hon, mae Therese, a symudodd o Ynysoedd Philippines i'r DU i astudio, yn rhannu ei thaith gydag awtistiaeth, yn sgîl ei diagnosis yn 2022. Mae'n cyferbynnu'r stigma a'r diffyg cymorth a brofodd yn Ynysoedd Philippines â'r amgylchedd mwy cynhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Er gwaethaf heriau parhaus o ran rhyngweithiadau cymdeithasol ac iechyd meddwl, mae'n siarad am y cymorth cynhwysfawr ac yn myfyrio ar werth y cymorth parhaus i reoli ei hawtistiaeth ac addasu i fywyd yn y brifysgol wrth gydnabod y frwydr barhaol ag unigrwydd ac addasu i'w hamgylchedd newydd.
 

Cyfres 2, Pennod 1 - "Cefais fy ngeni i greu newid" - Oluwaseun Ayodeji Osowobi, Nigeria

Yn y bennod gyntaf o gyfres 2, rydym yn croesawu'r ymgyrchydd a'r actifydd, Oluwaseun Ayodeji Osowobi. A hithau wedi graddio o Brifysgol Abertawe ag MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, mae Oluwaseun yn un o arweinwyr Sefydliad Obama yn Affrica ac enillodd wobr Study UK y British Council ar gyfer Gweithredu Cymdeithasol yn 2023. Mae hi'n eiriolwr angerddol dros hawliau a diogelwch menywod ac yn gweithio i leihau trais ar sail rhyw drwy ei menter Stand to End Rape. Ymunwch â ni i glywed sut mae'n goresgyn heriau ac yn cyflawni ei nodau, gan gefnogi menywod a merched ar eu taith i wellhad a chreu newid hirdymor.
 

Penodau blaenorol - Cyfres Un

Pennod 1 - Breuddwydion meddygol rhyngwladol – goresgyn adfyd er mwyn dod yn feddyg. Safia Shirzad, Afghanistan

Dilynwch daith neilltuol Safia Shirzad, lle canfu ei lle yn nannedd anfanteision yn y gymuned gofal iechyd a'r gymuned gemio ar-lein. Wedi'i hysgogi gan drychineb bersonol, darganfu Safia'r cwrs "Llwyr at Feddygaeth", gan ragori mewn modiwlau amrywiol, a chan ennill gradd dosbarth cyntaf yn y pen draw. Y tu hwnt i academia, mae angerdd Safia dros eiriolaeth yn disgleirio drwy ei gwaith gwirfoddoli, gan helpu cymunedau dan anfantais a chefnogi achosion dyngarol.

Mae gallu digidol Safia yn mynd ymhellach gan feithrin cymuned gemio fywiog a chan fagu cysylltiadau a chyfeillgarwch ar draws y tirlun digidol. Drwy ei llwyfan, mae hi'n ysbrydoli eraill i ddilyn eu diddordebau.

Pennod 2 - Grymuso menywod ledled y byd - yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn credu ynoch chi eich hun ac yn gweithredu. Bethel Ohanugo, Nigeria.

Wedi'i hysgogi gan y nod o chwalu rhwystrau technoleg mewn gofal iechyd, derbyniodd Bethel Ohanugo o Nigeria Ysgoloriaeth Eira Francis Davies. A hithau wedi'i hysgogi gan ei chenhadaeth i rymuso menywod mewn technoleg, dechreuodd Bethel ei rhaglen MSc mewn Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei thaith yn datblygu'n erbyn heriau hiraeth ac ynysu, y gwnaeth hi eu goresgyn drwy achub ar y cyfle i fod yn rhan o ddiwylliant bywiog a digwyddiadau'r Brifysgol.  Gwnaeth llwybr trawsnewidiol Bethel ei harwain o ymarfer clinigol i fyd gwybodeg, wedi'i sbarduno gan ei huchelgais i greu newid. Gwrandewch er mwyn cael cipolwg ar daith Bethel a'i hymrwymiad i rymuso menywod, creu argraff yn y diwydiant technoleg a'r tu hwnt.

Pennod 3 - Sut i oresgyn unrhyw adfyd yn eich bywyd drwy ddyfalbarhad a diben. Kuuku Anim

Sut i oresgyn unrhyw adfyd yn eich bywyd drwy ddyfalbarhad a diben. Kuuku Anim Gwrandewch ar daith sy’n llawn ysbrydoliaeth sy’n trafod gwydnwch, adnabod eich hun a phwysigrwydd cael cymorth. Dewch i gwrdd â Kuuku Anim, myfyriwr o Ghana sydd wedi goresgyn adfyd i ddilyn ei angerdd am dechnoleg gyfreithiol. Mae’r bennod hon yn archwilio penderfyniad diwyro Kuuku i oresgyn adfyd, defnyddio cryfder ei deulu a chwalu rhwystrau at fynediad. Ymunwch â ni i archwilio amrywiaeth o ddiddordebau sy’n cynnwys coginio, nofio a chwarae pêl fas a phêl-droed, ac yntau’n ddall. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan benderfyniad di-ildio Kuuku, sy’n parhau i lywio profiad bywiog myfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.

Pennod 4 - Chwalu Rhwystrau Diwylliannol wrth ddilyn eich diddordebau. Lan Wei

Rydyn ni'n dysgu am daith ysbrydoledig Lan, myfyriwr israddedig Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd sydd yn ei blwyddyn olaf. Mae stori Lan yn mynd â ni o strydoedd prysur Beijing i ddinas fywiog Abertawe. Mae stori Lan yn dyst i bŵer achub ar gyfleoedd, chwalu rhwystrau diwylliannol a dilyn yr hyn sy'n eich ysgogi. Dechreuodd ei thaith addysgol yn Beijing. Fodd bynnag, cyrhaeddodd drobwynt yn ei bywyd pan ddaeth i Abertawe, gan ddarganfod byd y tu hwnt i lyfrau testun. Gan gydweithio â cherddorion lleol, perfformio'n fyw yng Ngŵyl Ymylol Abertawe a mentro i fyd y cyfryngau a gwneud ffilmiau, mae Lan wedi archwilio ei diddordebau'n ddi-ofn.

Pennod 5 - Sut gall gweithio'n rhan-amser yn y brifysgol agor drysau i gyfleoedd cyffrous. Rewa Gupta

Yn y bennod hon, rydym yn cwrdd â Rewa Gupta, a symudodd o India i Dubai ac yna i'r DU lle cwblhaodd ei BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Er gwaethaf yr heriau yn sgîl y pandemig, gwnaeth ymrwymiad Rewa i waith gwirfoddol ei rhoi ar ben ffordd o fod yn wirfoddolwr i rôl Ymddiriedolwr sefydliad gwirfoddoli, gan feithrin mentrau arbenigol ac ymgyrchoedd codi arian. Mae ei phrofiad hi yn tanlinellu pŵer trawsnewidiol gwaith rhan-amser a gwirfoddol. Mae llwybr Rewa yn adlewyrchu ei datblygiad o fod yn un a oedd yn hiraethu am gartref i hunanhyder. Mae ei thaith yn amlygu pwysigrwydd camu y tu hwnt i'r hyn sy'n gyffyrddus, magu sgiliau, gwobrwyon gwaith rhan-amser a chroesawu profiadau newydd.

Pennod 6 - Gwerth dweud 'IE' yn ystod eich profiad yn y brifysgol. Christian Rodriguez-Howell, Sbaen.

Rydyn ni’n dilyn anturiaethau Christian, o astudio Peirianneg Sifil i archwilio’r byd, a darganfod y llawenydd o ddweud ‘ie’ i gyfleoedd bywyd. Ac yntau’n frodor o Sbaen, roedd llwybr Christian i addysg uwch ymhell o fod yn gonfensiynol wrth iddo ymdopi â chyfyngiadau system addysg Sbaen nad oedd yn cynnig llawer o ddewis o ran pynciau safon uwch. Serch hynny, dyfalbarhaodd wrth ddilyn ei freuddwydion. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio ei daith anhygoel o haul Sbaen i dirweddau bywiog y DU, lle dechreuodd ar ei antur brifysgol ac yntau’n laslanc 17 oed, gan addasu i ddiwylliant newydd a gwneud ffrindiau gydol oes, a hynny yn ystod pandemig byd-eang.

Pennod 7 - Achub ar bob cyfle a chael y budd o barhau trwy'r amser ar y llwybr tuag at eich gyrfa. Madhav Pandya, India.

Mae'r bennod hon yn cynnwys Madhav Pandya o India, a drodd y problemau sy'n wynebu ei addysg yn ystod y pandemig Covid yn gyfle i astudio dramor yn y DU. Wrth astudio BSc Cyfrifiadureg mae Madhav wedi gallu bachu ar bob cyfle a roddwyd iddo, yn ystod ei amser yn Abertawe fel Llysgennad Myfyrwyr, cynorthwyydd addysgu, Crëwr Cynnwys Digidol, Llywydd Cymdeithas India, Cyfarwyddwr Creadigol y Gymdeithas Hindŵaidd, gan gymryd a blwyddyn i astudio mewn diwydiant i gyd tra'n rhedeg sianel YouTube hynod lwyddiannus ar yr ochr! Ymunwch â ni wrth i ni ddatod stori Madhav, sy’n dyst i benderfyniad diwyro, ymrwymiad di-ildio, a’r grefft o fachu ar bob cyfle a ddaw yn ei sgil. Mae'r bennod hon yn ddathliad o fyfyriwr sydd nid yn unig yn llywio'r heriau ond sydd hefyd yn cerfio llwybr sydd wedi'i nodi gan fuddugoliaethau, gan wneud y gorau o bob eiliad.

PENNOD DIWEDDARAF

Cynllunio ymlaen llaw, addasu i newid a dod o hyd i'ch cymuned eich hun drwy gymdeithasau'r Brifysgol. Lexie Stewart, Canada

Cychwyn ar daith ysbrydoledig gyda Lexie Stewart o Ganada, lle mae'n rhannu ei phrofiad fel myfyriwr israddedig yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Arweiniodd ymchwil academaidd Lexie, a hwyluswyd trwy bartneriaeth â Phrifysgol Trent yng Nghanada, filoedd o filltiroedd i ffwrdd o'i chartref. Er gwaethaf y pellter, darganfu Lexie ymdeimlad dwys o berthyn a chymuned yn Abertawe.
Darganfu Lexie yn gynnar ei bod yn blentyn i semenu rhoddwr ac edrychodd i mewn i'r teulu estynedig hwn o hanner brodyr a chwiorydd. Fe ysgogodd y teulu estynedig yma’r sgil amhrisiadwy o greu cymuned ble bynnag y mae’n mynd – sgil y mae’n annwyl yn cyfeirio ato fel dod o hyd i’w “bentref bach,” fel y mae ei Mam yn ei alw. Mae naratif Lexie yn datblygu wrth iddi ymgolli’n llwyr yn nhapestri bywiog bywyd prifysgol, gan gymryd rhan weithredol mewn cymdeithasau amrywiol fel y Gymdeithas Gorawl, Cymdeithas De, a Chymdeithas Canada. Trwy'r ymrwymiadau hyn, mae hi nid yn unig wedi adeiladu cysylltiadau ond hefyd wedi plannu ei gwreiddiau'n gadarn yn y DU.
Nid cynllunydd yn unig yw Lexie; mae hi'n weledigaeth gyda chynllun 25 mlynedd sy'n arwain ei chamau. Ac eto, mae hi wedi meistroli’r grefft o fod yn agored ac i addasu, gan ddeall pwysigrwydd cynlluniau esblygol yn seiliedig ar droeon annisgwyl bywyd. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio taith Lexie - stori gyfareddol am deulu, cymuned, hunan-ddarganfyddiad, a'r gwytnwch i addasu i droeon a throeon bywyd. Mae hanes Lexie Stewart yn dyst i rym meithrin cysylltiadau, adeiladu cymunedau, a chofleidio natur gyfnewidiol ein llwybrau.

EIN GWESTEIWR

Dyma Daf Turner, cyflwynydd y Podlediad Profiad Myfyrwyr Rhyngwladol. Ar hyn o bryd, Daf yw Rheolwr Ymgyrchoedd a Chynnwys y tîm Marchnata Rhyngwladol, ac mae wedi gweithio mewn sawl rôl yn y Brifysgol ers 2013.

Mae Daf yn un o gyd-gadeiryddion Rhwydwaith Staff LHDT+ y Brifysgol. Mae gwaith y grŵp hwn wedi cyfrannu at gydnabyddiaeth i’r Brifysgol gan y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle am fod yn un o ddarparwyr addysg gorau'r DU.

Y tu allan i'r gwaith, mae Daf yn frwdfrydig iawn am gerddoriaeth, sy'n amlwg o'r ffaith ei fod yn cyflwyno ei sioe wythnosol ei hun ar orsaf radio leol, gan dreulio llawer o'i amser yn gwisgo clustffonau a llunio rhestrau caneuon amrywiol. Mae'n angerddol hefyd am ffilm a chreadigrwydd, diddordeb mae'n ei fynegi drwy chwarae rôl ar-lein a chreu propiau a gwisgoedd ffilm.  Mae wrth ei fodd hefyd yn pobi, yn coginio ac yn creu coctêls yn ei amser rhydd.

Llun o ddyn mewn top gwyn yn pwyso yn erbyn wal