Byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn nodi'ch rhif CAS o fewn 6 mis i ddyddiad cychwyn y cwrs, ar ôl i chi fodloni’r holl ofynion ar y rhestr wirio isod:
1.
|
Cael cynnig diamod o le i astudio
Os ydych wedi cael cynnig diamod, bydd angen i chi fodloni telerau’r cynnig cyn y gellir cyflwyno CAS
|
2.
|
Derbyn eich cynnig
|
3.
|
Dychwelyd eich Holiadur Astudiaethau Blaenorol
Previous Study Questionnaire (Holiadur Astudiaethau Blaenorol)
Os ydych wedi astudio yn y DU yn y gorffennol, cyflwynwch lythyr Cadarnhad Derbyn i Astudio neu lythyr cofrestru o’r sefydliad blaenorol (gan gynnwys dyddiadau cychwyn a gorffen a manylion am unrhyw fylchau o ran astudio) yn ogystal â chopi o’r fisa/fisâu a gawsoch i astudio yn ystod y cyfnod hwn.
Dylid cwblhau’r cwestiynau am “Bwriad i Astudio” mor llawn ag sy’n bosibl. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer Cyfweliad Hygrededd os bydd angen un arnoch fel rhan o’ch proses gwneud cais am fisa.
|
4.
|
Anfon copïau clir a lliw o’r tystysgrifau a’r trawsgrifiadau a ddefnyddiwyd fel rhan o’ch cais.
Caiff manylion y rhain eu rhestru ar eich CAS ac felly mae’n rhaid eu darparu hefyd wrth wneud eich cais am fisa.
|
5.
|
Anfon copi clir o’ch pasbort.
|
6.
|
Anfon canlyniadau eich profiad iaith Saesneg (os yw’n briodol)
|
7.*
|
Talu blaendal tuag at eich ffioedd dysgu (£4000 fan leiaf) NEU wedi cyflwyno copi i ni o lythyr gan y noddwr ariannol swyddogol sy’n gyfrifol am dalu eich ffioedd a/neu eich costau cynnal. Gweler isod am ragor o wybodaeth.
*Llythyr Nawdd Ariannol: mae’n rhaid bod eich llythyr nawdd ariannol yn enwi Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad dewisol, ac mae’n rhaid i’r llythyr ddod o ‘noddwr ariannol swyddogol,’ hynny yw, Llywodraeth Ei Mawrhydi, eich llywodraeth gartref, y Cyngor Prydeinig neu gwmni neu sefydliad a gydnabyddir yn rhyngwladol, Prifysgol neu Ysgol Annibynnol. Ni fydd Fisâu a Mewnfudo’r DU yn derbyn mathau eraill o noddwyr, megis aelodau teulu, fel tystiolaeth o’r nawdd.
NEU eich bod wedi cadarnhau eich bod wedi cael Benthyciad Ffederal UDA. (Fel arfer, ni fyddai angen i chi dalu blaendal os ydych yn derbyn cymorth ariannol gan noddwr swyddogol neu drwy Fenthyciad Ffederal UDA.)
|
Unwaith y byddwn wedi derbyn pob un o’r dogfennau hyn, a bod eich blaendal wedi’i glirio, bydd y Swyddog Derbyn yn dechrau paratoi eich datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio. Bydd datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio yn cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn pob un o’r dogfennau a nodir uchod.
Sylwer: Byddwn yn anfon copi o’ch datganiad a fydd yn cynnwys eich rhif Cadarnhad Derbyn i Astudio atoch drwy e-bost neu at eich asiantaeth ddynodedig. Ni fydd anfon copi gwreiddiol o’r llythyr arnoch.
**Sylwer, er bod y Cadarnhad Derbyn i Astudio yn ddilys am 6 mis o’r dyddiad y caiff ei gyflwyno, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am eich fisa tan 3 mis cyn i’r cwrs ddechrau**