Pa safon iaith Saesneg sy'n ofynnol i astudio ym mhrifysgol Abertawe?
Rhaid i'r holl fyfyrwyr ddangos eu bod wedi cyrraedd safon benodol yn Saesneg cyn dechrau eu rhaglen. Bydd angen i chi ddarparu cymhwyster neu brawf iaith Saesneg cydnabyddedig cyn cael eich derbyn i Brifysgol Abertawe.
Mae gofynion iaith Saesneg penodol wedi'u rhestru ar dudalen eich cwrs yn yr adran Gofynion Mynediad. Mae ein gofynion iaith Saesneg wedi'u rhestru fel sgoriau IELTS, ond rydym yn derbyn yr ystod eang o brofion iaith Saesneg eraill isod.
Sylwer, efallai y bydd rhai ysgoloriaethau ymchwil a ariennir yn cynnwys gofyniad am ennill sgôr prawf iaith Saesneg uwch na’r sgôr safonol cyn cofrestru neu eich bod yn meddu arni pan fyddwch chi’n cyflwyno cais. Mae manylion ynghylch gofynion mynediad Iaith Saesneg pwrpasol arfaethedig wedi’u rhestru ar bob hysbyseb ysgoloriaeth unigol. Gallwch ddod o hyd i’r ysgoloriaethau ymchwil sydd ar gael gyda ni ar hyn o bryd yn Ysgoloriaethau Ymchwil
Os nad yw eich sgoriau Saesneg yn bodloni ein gofynion, efallai y cewch eich derbyn os byddwch yn cwblhau Rhaglen Gyn-sesiynol Iaith Saesneg Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) i'r lefel ofynnol cyn dechrau eich rhaglen academaidd.