Mae'r GymGym yn ganolog i fywyd myfyrwyr Cymraeg yn Abertawe
P'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl neu ddim ond yn ceisio ymarfer eich Cymraeg, bydd y GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn reolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o'r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe a Phêl Rwyd Tawe.
Yn 2016-17 roedd y Gym Gym yn un o bedair Cymdeithas i dderbyn 'Aur' o fewn system Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r gymdeithas bellach yn 'Gymdeithas Aur'.