Dair blynedd yn ôl, ymrwymodd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe i gytundeb gyda Bloomfield Law Practice (yn Nigeria) i lansio gwobr flynyddol a chyfle interniaeth ar gyfer y myfyriwr LLM gorau o Nigeria ym maes cyfraith fasnachol, forwrol, olew a nwy.

Mae Bloomfield Law Practice yn gwmni cyfreithiol elît sy'n arbenigo mewn cyfraith fasnachol a morwrol. Mae eu cleientiaid yn cynnwys sefydliadau domestig, rhanbarthol a rhyngwladol yn y sectorau hedfan, marchnadoedd cyfalaf, adeiladu ac isadeiledd, Technoleg gyllid, lletygarwch, yswiriant, logisteg, olew a nwy (gan gynnwys y gwasanaethau olew), pŵer, telathrebu, llongau, bancio a chyllid a nwyddau defnyddwyr. 

Eleni, Nicole Ozavize Dele-Alufe sy'n ennill y wobr. Graddiodd Nicole o Brifysgol Benson Idahosa a chwblhaodd ei Chwrs Cymhwyster y Bar yn Ysgol y Gyfraith Nigeria (Abuja). Mae wedi cofrestru ar ein cwrs LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol ac ar hyn o bryd mae ar y trywydd i gwblhau ei LLM gyda rhagoriaeth.

Cyflwynwyd y wobr i Nicole gan Mr Afun, sef Cadeirydd Grwpiau Ymarfer Gwasanaethau Hedfan a Logisteg a Llongau ac Olew y cwmni yn Abertawe. Yn ystod y seremoni, canmolodd Mr Afun yr addysg gyfreithiol a gynigir yn Abertawe a nododd y bydd Nicole yn cael cynnig interniaeth yn swyddfa’r cwmni yn Lagos i gysgodi sawl partner o fis Ionawr ymlaen.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad ar ran Ysgol y Gyfraith, dywedodd Dr Andrew Iwobi, uwch-ddarlithydd:

"Rydym yn falch iawn o groesawu Mr Adedoyin Afun yn ôl i Abertawe er mwyn cyflwyno Gwobr Bloomfield i Ms Nicole Dele-Alufe. Rydym yn ddiolchgar i Mr Afun a'i gydweithwyr yn Bloomfield Law Practice, Lagos am anrhydeddu ein myfyriwr LLM sy'n perfformio orau o Nigeria bob blwyddyn gyda'r wobr nodedig iawn hon sy'n cynnwys gwobr ariannol hael iawn ond hefyd interniaeth amhrisiadwy gyda'r cwmni. Mae Nicole yn fyfyriwr rhagorol ac yn gwbl haeddiannol o dderbyn y wobr eleni".

Rhannu'r stori