Cymrawd Gwadd

LLB (SYD), LLM (CAERGRAWNT)

Peter Macdonald Eggers

Mae Peter yn fargyfreithiwr sy'n gweithio yn 7 King's Bench Walk. Mae’n arbenigo ym mhob agwedd ar gyfraith fasnachol, gan ganolbwyntio’n benodol ar yswiriant ac ailyswirio, llongau a thrafnidiaeth, ynni, nwyddau a masnach ryngwladol, gwasanaethau ariannol, esgeulustod proffesiynol a phrosiectau buddsoddi rhyngwladol. Mae’n ymddangos yn rheolaidd ger bron y Llys Masnachol a'r Llys Apêl ac mewn cyflafareddiadau masnachol a rhyngwladol. Mae Peter wedi ymddangos ger bron llysoedd mewn awdurdodaethau eraill hefyd. Mae Peter ar gael i'w benodi'n gyflafareddwr hefyd.

Mae Peter hefyd wedi gweithredu mewn nifer o achosion masnachol blaenllaw, gan gynnwys The Cultural Foundation v Beazley Furlonge Ltd (yswiriant indemniad proffesiynol), Aspen Underwriting v Kairos Shiping (setliad yswiriant, awdurdodaeth), The Cape Bari (cytuniad cyfyngiad a gwrthdrawiad â llong wrth angorfa), Suez Fortune Investments Ltd v Talbot Underwriting Ltd (colled deongliadol llwyr o long olew a ddifrodwyd gan fôr-ladron), Rathbone Brothers plc v Novae Corporate Underwriting (hawliad yswiriant ar gyfer tor-ymddiried ac amnewidiad) The Princess of the Stars (hawliad ailyswirio am golli llong mewn teiffŵn) Sea Glory Martime Co v Al Sagr National Insurance Co (The Nancy) (dyletswydd didwylledd eithaf, gwarant ISM a pholisi cyhoeddus mewn perthynas â hawliad yswiriant corff llong) Arash Shipping v Groupama (effaith sancsiynau’r UE yn erbyn Iran ar bolisi yswirio fflyd) Masefield v Amlin (hawliad yswiriant ar gyfer cargo a gipiwyd gan fôr-ladron o Somalia) Gard v Tunnicliffe (hawliad ailyswirio mewn perthynas â cholledion o ganlyniad i Gorwynt Rita) The WD Fairway (hawliad yswiriant mewn perthynas â llong a ddifrodwyd mewn gwrthdrawiad) Limit v AXA (hawliad yn erbyn cytundeb ailyswirio ynni) ac AIG v Faraday (ailyswiriant cyfarwyddwyr a swyddogion).

Ym mis Mai 2017, penodwyd Peter yn Ddirprwy Farnwr i’r Uchel Lys.

Mae'n gyd-awdur Good Faith and Insurance Contracts, 4ydd arg. (Informa, 2018), Vitiation of Contractual Consent (Informa, 2016) and the Deceit: The Lie of the Law (Informa, 2009). Mae Peter hefyd yn olygydd cyfrannu i Chitty on Contracts.

I weld hanes ymchwil Peter MacDonald Eggers cliciwch yma.