Croeso i Brifysgol Abertawe!

Cynllun o gampws Singleton

Cynllun o gampws Singleton

Cynllun Campws y Bae

Cynllun Campws y Bae

Beth sydd angen i chi ei wybod

Cardiau Adnabod Staff

At ddibenion diogelwch, rhoddir Cerdyn Adnabod Staff i holl weithwyr y Brifysgol. Byddwch yn derbyn eich Cerdyn Adnabod yn y Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth (rhif 7 ar fap Campws Parc Singleton). Ewch i Ddesg Fenthyca’r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth rhwng 10:00 a 12:00 neu rhwng 14:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Dylech fynd â’r llythyr hwn a dull adnabod â llun gyda chi fel modd o'ch adnabod.

Er mwyn cael mynediad i'r adeiladau perthnasol a'r rhwystrau i feysydd parcio'r campws â'ch Cerdyn Staff, ewch i'r Dderbynfa Ystadau a Chyfleusterau ar bedwerydd llawr Tŷ Undeb gyda'ch Cerdyn Adnabod Staff a'ch llythyr penodi, neu e-bostiwch cardaccess@abertawe.ac.uk.

Os oes gennych chi ymholiadau pellach, cysylltwch â gweinyddwr eich cerdyn mynediad drwy ddefnyddio’r tabl isod 

Adran 

E-bost 

Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol 

FoHSSFacilities@Swansea.ac.uk 

Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd 

FMHLS-Access@swansea.ac.uk 

Gwyddoniaeth a Pheirianneg  

fse-access@swansea.ac.uk 

Gwasanaethau Academaidd 

Salto-AcademicServices@swansea.ac.uk 

Gwasanaethau Digidol

Salto-ISS@swansea.ac.uk  

Gwasanaethau Preswyl 

Preseli-Reception@swansea.ac.uk 

Pob cais arall am fynediad cerdyn  

cardaccess@swansea.ac.uk or call 01792 295405

 

Parcio a Theithio

Os hoffech barcio ar y campws, mae angen trwydded barcio arnoch o Dderbynfa Ystadau a Chyfleusterau ar bedwerydd llawr Tŷ Undeb (rhif 18 ar fap Campws Parc Singleton).

Am ragor o fanylion am drwydded barcio, rhannu ceir a chynlluniau tocyn bws i staff, yn ogystal â threfniadau teithio i Gampws newydd y Bae, gweler yr wybodaeth berthnasol yma gan y Swyddfa Ystadau.

Pensiynau

Cewch eich cynnwys yng Nghynllun Pensiwn Prifysgol Abertawe yn awtomatig ar ddechrau eich cyflogaeth yn y Brifysgol. Os nad ydych am fod yn rhan o'r Cynllun, ffoniwch Jane Hurford, y Swyddog Blwydd-daliadau, ar estyniad 5353 i drafod hyn a materion eraill yn ymwneud â phensiynau.

Eich Cyfeiriad E-bost Prifysgol Abertawe

Dylai eich rheolwr llinell drefnu i sefydlu eich cyfeiriad ebost. Os oes unrhyw gwestiynau gennych am eich cyfeiriad ebost, siaradwch â’ch rheolwr llinell yn y man gyntaf. Fel arall, gallwch siarad â’r tîm Cymorth TG ar-lein, neu drwy’r Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth.