A allwn ymddiried mewn gwleidyddion? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang? Pwy sy'n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît? Dyma'r cwestiynau sy'n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang.
Yn y bedwaredd gyfres, 9 pennod o hyd hon, mae academyddion o Brifysgol Abertawe'n esbonio sut mae eu hymchwil arloesol yn mynd i’r afael â heriau byd-eang.
Dros y misoedd nesaf, gall gwrandawyr wrando ar benodau sy'n cynnwys academyddion sy'n rhychwantu disgyblaethau amrywiol. Bydd yr arbenigwyr hyn yn rhannu eu brwdfrydedd am eu hymchwil, yn trafod eu profiadau wrth addysgu myfyrwyr, ac yn siarad am eu cydweithrediadau â phartneriaid.
Mae pob pennod yn cynnig gwybodaeth ar sut mae eu hymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ac yn bwydo eu cyflawniadau gyda'r gyfres hon hefyd yn cynnwys pennod Iaith Gymraeg gyda'r arbenigwr llosgfynyddoedd Dr Rhian Meara.
Mae'r cyflwynydd rheolaidd Dr Sam Blaxland yn dychwelyd i'r gyfres sy'n dechrau ar 7 Mai gyda'r Athro Cysylltiol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, Dr Luca Trenta, a fydd yn datguddio defnydd y wladwriaeth o weithrediadau cuddiedig, gyda sbotolau ar rôl Llywodraeth yr Unol Daleithiau mewn llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth. Gan rychwantu'r cyfnod rhwng y Rhyfel Oer a'r oes fodern, mae Dr Luca Trenta'n datgelu manylion cymhleth y gweithredoedd dirgel hyn.
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil Prifysgol Abertawe:
"Rwy'n edrych ymlaen at ein cyfres newydd o bodlediadau "Archwilio Problemau Byd-eang" a fydd yn arddangos gweithgareddau ymchwil rhagorol y brifysgol trwy leisiau ei hymchwilwyr. Trwy eu naratifau, bydd y gyfres yn amlygu effaith gymdeithasol eu gwaith, gan ddangos sut mae eu hymchwil yn mynd i’r afael â heriau argyfyngus y presennol a'r dyfodol.
“Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi pwyslais ar ymchwil o’r cychwyn cyntaf. Yn yr asesiad diweddaraf dan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, barnwyd bod canran drawiadol (86%) o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagori'n rhyngwladol. Mae ein hymchwil yn cael effaith ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd, gan wneud gwahaniaeth go iawn yn lleol ac yn fyd-eang.”
Bydd pennod newydd yn fyw bob pythefnos ac mae modd i wrandawyr ddod o hyd i'r podlediadau trwy danysgrifio i'r gyfres ar y darparwr podlediadau o'u dewis nhw neu drwy wefan Prifysgol Abertawe.