Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n archwilio'r effaith y gall atchwanegion omega-3 ei chael ar ymddygiad, hwyliau a lles meddyliol plant, fel rhan o astudiaeth arloesol â goblygiadau ar gyfer iechyd ac addysg.
Mae asidau brasterog omega-3, a geir mewn pysgod a bwyd môr, yn hanfodol i alluogi ymennydd plant i weithredu a datblygu. Gan nad yw'r corff yn gallu cynhyrchu'r rhain yn effeithlon, rhaid eu cyflenwi drwy ddiet.
Mae'r rhan fwyaf o blant yn y DU yn cael llai na hanner y swm o frasterau omega-3 a argymhellir bob dydd, felly mae tîm o Ysgol Seicoleg y Brifysgol wedi derbyn grant gwerth £81,000 i archwilio a all atchwanegion omega-3 helpu.
Ariennir yr astudiaeth yn annibynnol gan y Waterloo Foundation ac mae'n gydweithrediad â Food and Behaviour (FAB) Research, elusen yn y DU sydd â'r nod o hyrwyddo ymchwil wyddonol i'r cysylltiadau rhwng maeth ac ymddygiad dynol.
Mae'r tîm yn chwilio am blant rhwng 6 a 12 oed o dir mawr y Deyrnas Unedig i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Gellir ei chwblhau'n gyfan gwbl ar-lein a bydd cyfranogwyr yn cael cyflenwad tri mis o atchwanegion hawdd eu llyncu drwy'r post.
Gofynnir i rieni a gwarcheidwaid gwblhau holiaduron am ymddygiad eu plant cyn iddynt gymryd yr atchwanegion ac wedi hynny, gan nodi unrhyw newidiadau yn eu hymddygiad, gan gynnwys hwyliau a chwsg.
Meddai Dr Hayley Young, Prif Ymchwilydd y prosiect: "Mae diffyg omega-3 yn niet plant yn gyffredin yn y DU bellach, er gwaethaf y ffaith bod y maetholion hyn yn hollbwysig i iechyd meddwl ac iechyd corfforol a lles. Rydyn ni eisoes yn gwybod bod diffyg omega-3 yn rhagfynegi ymddygiad, hwyliau a sawl math o anawsterau dysgu.
"Mae treialon blaenorol wedi dangos y gall cynyddu omega-3 yn eu diet fod o les i o leiaf rai plant, ni waeth a yw eu hanawsterau'n fodloni'r meini prawf llawn ar gyfer cyflyrau fel ADHD neu awtistiaeth. Bydd y treial newydd hwn yn ein helpu i ganfod pa blant all gael y budd mwyaf a beth yw'r ffordd orau o'u hadnabod."
Ychwanegodd Dr Alex Richardson, Partner FAB a Chyd-ymchwilydd: "Mae gan FAB Research brofiad helaeth o ymchwil yn y maes hwn - ac mae'r un peth yn wir am Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe - felly, rydym wrth ein boddau'n cydweithredu ar yr astudiaeth newydd a phwysig hon.
"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o rieni, athrawon ac ymarferwyr iechyd proffesiynol yn ei chael hi'n anodd darparu'r help a'r cymorth sydd eu hangen ar gynifer o blant. Bydden ni'n dwlu clywed ganddynt, oherwydd gallwn ni roi mwy o wybodaeth iddyn nhw a allai fod yn ddefnyddiol.