Trosolwg
Mae gan Russell brofiad helaeth o addysgu athrawon ac arolygu ysgolion. Yn flaenorol, mae wedi arwain rhaglenni ac arolygiadau ôl-raddedig ac israddedig yn Lloegr, Cymru a'r Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae ei brif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â hanes addysg yng Nghymru, gan gynnwys pynciau fel hyfforddi athrawon, addysg i bobl dlawd a darparu prydau ysgol am ddim. Hefyd, mae gan Russell ddiddordeb mewn archwilio addysgeg effeithiol, yn enwedig yn y Dyniaethau.