Trosolwg
Mae Andrew yn Athro mewn Addysg yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil yn y meysydd arweinyddiaeth addysgol, recriwtio a chadw penaethiaid, effaith polisi addysgol ar ymarfer proffesiynol athrawon, ac addysg ddwyieithog yn y cyfnod ôl-orfodol.
Fe ddechreuodd Andrew ei yrfa academaidd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Cyn derbyn ei swydd ym Mhrifysgol Abertawe, roedd e’n Ddarllenydd Addysg yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n ymgymryd â nifer o rolau arweinyddol, gan gynnwys cyfnod fel Pennaeth yr Ysgol ac fel Chyfarwyddwr Ymchwil Athrofaol, yn cydlynu gweithgareddau ymchwil ar draws chwech adran academaidd.
Mae Andrew wedi gweithio yn y maes dysgu proffesiynol i athrawon ar lefel Feistr ers dros ddegawd. Ers 2018, mae e wedi bod yn aelod creiddiol o’r tîm a ddatblygodd, ac sydd bellach yn darparu, cynllun Meistr arloesol Llywodraeth Cymru, sef yr MA Addysg (Cymru).