Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cofrestru eich manylion isod

Caiff eich manylion gosod mewn i gronfa ddata ddiogel. Rydym yn cysylltu ag aelodau o'r gronfa ddata pan fydd ymchwilydd yn yr Adran Seicoleg yn chwilio am gyfranogwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth. Byddwch yn cael gwybodaeth fanwl fel y gallwch benderfynu a allech fod yn gymwys ar gyfer yr astudiaeth, ac a hoffech gymryd rhan. Mae'n bwysig nodi, wedi i chi gofrestru ar y gronfa ddata, nid oes unrhyw rwymedigaeth fyth i gymryd rhan yn yr astudiaethau rydyn ni'n cysylltu â chi yn eu cylch. Rydych chi bob amser yn rhydd i ddewis a ydych chi am gymryd rhan ai peidio. Os yr ydych yn dewis peidio â chymryd rhan mewn astudiaeth, ni fydd angen i chi roi rheswm. Mae cyfranogiad bob amser yn cael ei werthfawrogi'n fawr - ni fyddai'n bosibl cynnal ein hymchwil heb wirfoddolwyr. Diolchwn yn fawr am eich cefnogaeth.

Byddwn hefyd yn cysylltu gyda chi o bryd i’w gilydd am ddigwyddiadau eraill, fel ein boreau coffi, ble mae ymchwilwyr yn cyflwyno canlyniadau a darganfyddiadau eu hastudiaeth mewn gosodiad anffurfiol, hamddenol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn neu’n dilyn cofrestru, cysylltwch. Diolch yn fawr iawn i chi am eich diddordeb yn ein helpu ni gyda’n hymchwil.














Trwy dicio'r blwch hwn a chyflwyno'r ffurflen gofrestru, rydych chi'n cytuno i'r wybodaeth a ddarperir gael ei chadw'n ddiogel yn y gronfa ddata cyfranogwyr, ac i'r wybodaeth hon gael ei phrosesu yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd cyfatebol * hysbysiad preifatrwydd*
Cytunaf