Cafodd Yvonne Banham ei magu ar ynys oddi ar arfordir Cumbria a threuliodd lawer o amser yn eistedd ar y traeth gwyntog yn darllen llyfr arswyd. Pan adawodd yr ysgol, nid oedd hi'n gallu penderfynu a oedd hi'n dymuno bod yn nyrs, yn artist, neu'n ysgrifennwr felly rhoddodd gynnig ar bob un ohonyn nhw a phenderfynodd ei bod hi'n hoffi geiriau'r mwyaf. Mae hi'n gallu siarad Iseldireg (yn wael) ac mae hi'n credu mewn ysbrydion er nad yw hi byth wedi cwrdd ag un. Ar ôl 5 mlynedd ddychrynllyd o arbennig yng Nghaeredin, mae hi bellach yn byw yn Swydd Stirling gyda'i gŵr a'u ci direidus. Os nad yw hi'n ysgrifennu, mae hi'n cerdded yn y bryniau neu'r coetir gerllaw.
'The Dark and Dangerous Gifts of Delores Mackenzie' gan Yvonne Banham
Pan mae Delores Mackenzie yn cael ei herlid adref gan ysbryd aflonydd, caiff ei hanfon at yr Ewythrod dieithr yn hen dref Caeredin i ddysgu sut i reoli ei ‘galluoedd’ anarferol. Yn ofnus ac ar ei phen ei hun, mae hi’n sylwi bod ei chartref newydd yn siop lyfrau Tolbooth yn llawn rhyfeddodau: rhai i’w croesawu, rhai fel arall. Ond pan mae drychiolaeth sinistr yn bygwth bywydau y ffrindiau newydd sy’n rhannu tŷ â hi, mae’n rhaid i Delores ddefnyddio ei holl nerth i’w hachub.