Cynlluniau benthyca, adnoddau ar-lein a Wi-Fi ar gyfer ymwelwyr
Gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr
- Croesawir ymwelwyr i Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe! Gallwch ganfod gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad i'n llyfrgelloedd, a sut i ymuno ag un o'n Cynlluniau Benthyca, yn yr adran Cynlluniau Benthyca a Mynediad i'r Llyfrgell i Ymwelwyr Allanol isod.
- Gofynnir i ymwelwyr â'r llyfrgelloedd barchu adeilad ac adnoddau'r llyfrgell a'i staff a'i ddefnyddwyr, ac i roi ystyried i'r rhai sy'n defnyddio mannau astudio at ddibenion academaidd ac ymchwil.
- Disgwylir i ymwelwyr â'r llyfrgell ofalu am eu heiddo personol a pheidio â'i adael heb sylw yn y llyfrgell. Nid yw Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe'n gyfrifol am unrhyw golled, lladrad neu ddifrod i eiddo personol.
- Yn unol â pholisi Prifysgol Abertawe ynghylch Plant ar Fangreoedd y Brifysgol, rhaid i ymwelwyr dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn goruchwylio bob amser.
- Mae ein Polisi ynghylch Ymwelwyr Allanol i Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe ar gael yn gyfan yma: Polisi Llyfrgell Prifysgol Abertawe ynghylch Ymwelwyr Allanol
Mynediad at ein Hadeiladau Llyfrgell
Tra bod ein llyfrgelloedd yn bennaf at ddefnydd myfyrwyr a staff cyfredol Prifysgol Abertawe, rydym yn caniatáu mynediad gan ymwelwyr allanol i'n llyfrgelloedd y Bae, Parc Singleton a Pharc Dewi Sant, ac i Lyfrgell y Glowyr De Cymru. Mae cyfyngiadau ar fynediad a rhestrir y rhain isod.
- Gofynnwn yn garedig i chi trefnu'ch ymweliad ymlaen llaw. Dylai ymwelwyr gwirio'r tudalen gwe penodol ar gyfer y safle Llyfrgell neu Archifau maen nhw am fynd i gyn teithio, am y wybodaeth ddiweddaraf am oriau agor, cyfnodau mynediad cyfyngedig, a mynediad.
- Caiff ymwelwyr allanol ymweld â Llyfrgell Parc Singleton a Llyfrgell y Bae yn ystod yr oriau agor Desg Gwybodaeth Llyfrgell Myuni pan fydd staff ar ddyletswydd, heblaw am yn ystod cyfnodau Mynediad Cyfyngedig i'r Llyfrgell.
- Mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru ar agor i ymwelwyr allanol yn ystod ei oriau agor. Nid oes angen gwneud apwyntiad ar gyfer ymweliadau cyffredinol, ond gofynnir i ymchwilwyr sydd am gael mynediad i gasgliadau arbennig LLGDC yn yr ystafell ddarllen i wneud apwyntiad ymchwil.
- Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant ar agor i ymwelwyr allanol pan fydd staff ar ddyletswydd. Ni chaniateir deunyddiau llyfrgell o Lyfrgell Parc Dewi Sant i gael eu benthyg gan ymwelwyr allanol, ond gellir eu defnyddio yn y llyfrgell ar sail cyfeirio yn unig.
- Rhaid i ymwelwyr ag Archifau Richard Burton wneud apwyntiad cyn eu hymweliad.
Cyfnodau mynediad cyfyngedig
- Yn ystod cyfnodau allweddol, megis cyfnodau arholiadau ac asesiadau, bydd mynediad i adeiladau Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe a benthyciad deunyddiau'r llyfrgell yn gyfyngedig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau Mynediad SCONUL yn unig.
- Gwiriwch ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd, neu'r adran Dyddiadau Mynediad Cyfyngedig i'r Llyfrgell isod, am wybodaeth am ddyddiadau Mynediad Cyfyngedig sydd wedi'u trefnu.
- Yn ystod cyfnodau mynediad cyfyngedig, bydd ymchwilwyr yn dal i allu ymweld â Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton drwy apwyntiad.
- Caniateir benthycwyr allanol i gael mynediad i'r llyfrgell i ddychwelyd eitemau, os oes ganddynt fenthyciadau a bydd yn dod yn ddyledus yn ystod y cyfnod mynediad cyfyngedig.
- Os oes gan ymwelwyr allanol i'r llyfrgell unrhyw ymholiadau brys yn ystod cyfnodau mynediad cyfyngedig, gellir cysylltu â'r llyfrgell drwy ffôn neu e-bost.
- Y tu allan i Gyfnodau Mynediad Cyfyngedig, gall ymwelwyr ymweld â'n llyfrgelloedd yn ystod oriau agor y desgiau gwybodaeth pan fydd staff ar ddyletswydd yn unig.